Os ydych chi’n amau bod cerbyd wedi’i adael, gwiriwch i weld a oes ganddo dreth ffordd ac MOT:
Beth yw cerbyd wedi’i adael?
Mae’r canlynol yn wir am gerbyd wedi’i adael:
- nid oes ganddo geidwad wedi’i gofrestru ar gronfa ddata’r DVLA ac nid yw wedi'i drethu
- nid oes ganddo MOT dilys
- wedi bod yn llonydd ers cryn dipyn o amser
- mae’r cerbyd wedi chwythu ei blwc ac ni ŵyr neb am y perchennog yn lleol
- wedi'i ddifrodi'n sylweddol, ag ôl traul arno neu nad yw’n anaddas ar gyfer y ffordd, (er enghraifft, mae ganddo deiars fflat, olwynion ar goll neu ffenestri wedi torri)
- mae’r platiau rhif ar goll
Rhoi gwybod am gerbyd wedi’i adael
Yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi roi gwybod i ni am gerbyd wedi’i adael
Byddwn ni’n:
- ceisio cysylltu â’r perchennog
- gadael nodyn ar y cerbyd yn rhybuddio y bydd yn cael ei symud os nad oes unrhyw un yn ei hawlio
- cael gwared ohono ar ôl hyn - byddwn ni’n mynd ag ef i amgaefa neu yn ei ddinistrio
Rhoi gwybod am faterion cysylltiedig
I roi gwybod am:
- gerbyd nad yw wedi’i drethu ar ffordd gyhoeddus
- cerbyd wedi’i gofrestru yn un oddi ar y ffordd (Hysbysiad Oddi ar y Ffordd Statudol) ac ar ffordd gyhoeddus
Cerbyd heb MOT yn cael ei ddefnyddio ar ffordd gyhoeddus
Os ydych chi wedi gwirio nad yw MOT cerbyd yn ddilys a bod y cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar ffordd gyhoeddus, gallwch chi roi gwybod i’ch heddlu lleol. Yn Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru yw’r rhain (dolen gyswllt allanol).
Cerbyd yn rhwystro ffordd gyhoeddus neu lwybr troed
Ffoniwch rif yr heddlu nad yw ar gyfer galwadau brys ar 101 a dywedwch ei fod yn fater yn ymwneud â pharcio peryglus a rhwystrol.
Cerbyd sydd ar dân neu'n cael ei fandaleiddio
Ffoniwch yr heddlu ar 999.