Gallwch helpu i leihau twyll drwy roi gwybod am unrhyw bryderon a amheuir o dwyll sydd gennych. 

Rhoi gwybod am dwyll budd-daliadau

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn hawlio budd-daliadau nad oes ganddyn nhw hawl iddyn nhw – er enghraifft Credyd Cynhwysol, PIPS, Budd-dal Tai neu Lwfans Ceisio Gwaith – yna mae angen i chi adrodd hyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Gweithgareddau troseddol a amheuir

Os ydych yn amau ymddygiad troseddol posibl – er enghraifft defnyddio cyffuriau neu ddelio â chyffuriau – yn eich ardal, gallwch riportio hyn i’r heddlu.

Rhoi gwybod am dwyll yn erbyn Cyngor Wrecsam

Gallwch ein helpu drwy roi gwybod am unrhyw bryderon sydd gennych am dwyll a amheuir yn erbyn Cyngor Wrecsam.  Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon i roi gwybod am bryderon sy’n ymwneud â:

  • Bathodyn Glas
  • Ardrethi Busnes 
  • Contractau gyda’r cyngor
  • Gostyngiad treth y cyngor / gostyngiad person sengl
  • Hawliadau yswiriant ffug
  • Cyllid Grant
  • Twyll tenantiaeth tai 
  • Taliadau i gyflenwyr
  • Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys taliadau uniongyrchol
  • Twyll a amheuir yn ymwneud â gweithiwr cyngor

Caiff honiadau eu hadrodd yn ddienw.  Peidiwch â rhoi eich manylion personol.  Ni allwn roi diweddariadau cynnydd na chanlyniadau unrhyw ymchwiliad am resymau cyfrinachedd.