Mae’r gwasanaeth llyfrgell yn aml yn cael cynnig rhoddion ariannol gan ddefnyddwyr sydd eisiau dangos eu gwerthfawrogiad a’u cefnogaeth i’r gwasanaeth.
Gallwch roi arian i helpu a chefnogi llyfrgelloedd i ddarparu digwyddiadau a gweithgareddau ym mhob un o’n 10 llyfrgell ar draws Sir Wrecsam.
Rydym yn gweithio gydag awduron, sefydliadau’r trydydd sector, ysgolion a chymunedau, ac mae’r digwyddiadau a’r gweithgareddau hyn yn golygu y gallwn ni helpu a chefnogi mwy o bobl yn ein cymunedau.
Mae eich rhoddion yn sicrhau y gallwn ni barhau i ddarparu ein digwyddiadau a’n gweithgareddau cyffrous a rhannu ein cariad at lyfrgelloedd mor eang â phosibl.
Gofynnwn i chi ond rhoi cymaint ag rydych chi’n teimlo’n gyfforddus ei roi. Efallai byddwch eisiau ystyried gwneud taliad unwaith yn unig neu roi’n fwy aml.
Ffyrdd o roi
Rhoi yn bersonol
Gallwch ymweld ag unrhyw gangen llyfrgell leol a rhoi mewn arian parod.
Rhoi ar-lein
Mwy o wybodaeth
Ar beth fydd yr arian a godwyd o’r rhoddion yn cael ei wario?
Mae 100% o bob rhodd yn mynd yn uniongyrchol i Lyfrgelloedd Wrecsam ac yn cael ei ddefnyddio i gynnal a gwella ein gwasanaethau. Nid oes unrhyw ddidyniadau neu ffioedd ac ni fyddant yn cael eu defnyddio i dalu cyflogau.
Rwyf eisoes yn talu Treth y Cyngor – onid yw hyn yn talu am gost y gwasanaeth?
Nid yw Treth y Cyngor yn talu am holl gostau rhedeg y gwasanaeth llyfrgell. Mae rhoddion yn un o nifer o ffrydiau refeniw i’n helpu ni i gyflawni hyn.
Oes modd i mi wneud Cymorth Rhodd?
Yn anffodus, nid yw hyn yn bosibl ar hyn o bryd.