Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi i’r cyhoedd hawliau tebyg i'r rhai sydd yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth; sy'n hyrwyddo tryloywder a bod yn agored ar draws y sector cyhoeddus.

O dan y rheoliadau hyn, mae gan unrhyw berson hawl gyffredinol i gael mynediad at wybodaeth sydd wedi ei chofnodi a gedwir gennym ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).

Mathau o wybodaeth y mae’r rheoliadau hyn yn eu cwmpasu

Mae gwybodaeth amgylcheddol yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi sydd gennym am:

  • Gyflwr elfennau o’r amgylchedd, megis aer, dŵr, pridd, a thir.
  • Allyriadau a gollyngiadau, sŵn, ynni, ymbelydredd, gwastraff ac unrhyw sylweddau tebyg eraill (gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ansawdd aer ar ein gwefan).
  • Mesurau a gweithgareddau megis polisïau, cynlluniau a chytundebau sy'n effeithio neu'n debygol o effeithio ar gyflwr elfennau o’r amgylchedd. 
  • Adroddiadau a dadansoddiadau cost a budd a dadansoddiadau economaidd a ddefnyddir yn y polisïau, cynlluniau a chytundebau hyn. 
  • Cyflwr iechyd a diogelwch dynol, llygru'r gadwyn fwyd a safleoedd diwylliannol ac adeiladau. 

Costau

O dan y rheoliadau, ni chodir tâl am fynediad i'r canlynol:

  • Cofrestrau cyhoeddus
  • Rhestrau gwybodaeth amgylcheddol
  • Archwiliadau ar safleoedd

Fodd bynnag, ar gyfer pob sefyllfa arall, gellir codi tâl, a benderfynir fesul achos.

Pan ofynnir am gopïau caled o wybodaeth, efallai y byddwn hefyd yn codi tâl am gost postio a llungopïo. 

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gostau sy'n debygol o fod yn gysylltiedig wrth brosesu eich cais.

Sut mae cyflwyno cais Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol?

Gwiriwch yn gyntaf!

Cyn i chi wneud cais, gwiriwch a yw'r wybodaeth eisoes ar gael fel rhan o'n cynllun cyhoeddi.

Gallwch hefyd wirio i weld a ydym wedi derbyn ac ymateb i gais tebyg i'ch un chi trwy'r wefan WhatDoTheyKnow (dolen gyswllt allanol)

Gallwch hefyd wneud cais drwy:

  • E-bost -  FOI@wrexham.gov.uk
  • Post - i’r cyfeiriad ‘Adran Gwybodaeth Gorfforaethol, Cwsmeriaid a Llywodraethu, Neuadd y Dref, Wrecsam LL11 1AY’
  • Ffôn - ffoniwch 01978 292000 a gofynnwch i siarad â'r Tîm Gwybodaeth Gorfforaethol.

Gwneud cwyn

Adolygu mewnol

Os ydych yn anhapus â'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch cais, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad ein hymateb. 

Bydd angen i chi nodi'r rheswm pam eich bod yn anghytuno â'r penderfyniad a wnaed.  

E-bostiwch foi@wrexham.gov.uk neu ffoniwch ein switsfwrdd ar 01978 292000 a gofynnwch am siarad â'r Tîm Gwybodaeth Gorfforaethol.

Comisiynydd Gwybodaeth

Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad yr adolygiad mewnol, mae gennych hawl i wneud cais i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn uniongyrchol am benderfyniad. Dyma awdurdod annibynnol y DU a sefydlwyd i orfodi’r gyfraith sy'n ymwneud â mynediad y cyhoedd at wybodaeth.