Mae’r tablau canlynol yn nodi mesurau canlyniadau ar gyfer pob un o’r chwe blaenoriaeth a osodir yng Nghynllun y Cyngor (2023-28). Gan ddefnyddio ein fframwaith rheoli perfformiad byddwn yn asesu pa mor dda rydym yn ei wneud o ran darparu ein Cynllun y Cyngor ar gyfer trigolion a chymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Fframwaith Rheoli Perfformiad Darparu Gwasanaethau Stryd Effeithlon a Datgarboneiddio ein HamgylcheddRhif mesur canlyniad | Disgrifiad mesur canlyniad | Beth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da? |
---|
CPEn1 | Canran yr arolygon o feysydd chwarae a gwblhawyd yn brydlon gan gymryd y camau gweithredu priodol | Cynnal |
CPEn2 | Gostyngiad yn nifer yr adroddiadau swyddogol am faw cŵn a sbwriel | Gwella (gostyngiad) |
CPEn3 | Canran yr achosion o dipio anghyfreithlon y cafwyd gwybod amdanynt a gafodd eu clirio o fewn 5 niwrnod gwaith | Cynnal |
CPEn4 | Canran wythnosol gyfartalog yr achosion o fethu biniau y cafwyd gwybod amdanynt | Cynnal |
CPEn5 | Canran yr arolygon priffyrdd a gwblhawyd yn unol â pholisi | Gwella (cynnydd) |
CPEn6 | Canran y tyllau mwyaf difrifol a atgyweiriwyd yn unol â pholisi | Cynnal |
CPEn7 | Canran yr arolygon o barciau gwledig / mannau agored a gwblhawyd yn unol â pholisi gan gymryd y camau gweithredu priodol | Gwella (cynnydd) |
CPEn8 | Canran y systemau draenio priffyrdd a arolygwyd yn unol â’r amserlen gytunedig | Gwella (cynnydd) |
CPEn9 | Gostyngiad yn yr allyriadau carbon cyffredinol neu ar y trywydd iawn i sicrhau gostyngiad yn yr allyriadau carbon cyffredinol | Gwella (gostyngiad) |
CPEn10 | Canran yr adroddiadau Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor sy’n cynnwys asesiad o effaith carbon | Gwella (cynnydd) |
CPEn11 | Nifer y Cynlluniau Lleihau Carbon Cymunedau Carbon Isel | Gwella (cynnydd) |
CPEn12 | Gostyngiad yn yr allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â fflyd trafnidiaeth CBSW | Gwella (gostyngiad) |
CPEn13 | Gostyngiad yn Allyriadau Fflyd Lwyd CBSW | Gwella (gostyngiad) |
CPEn14 | Canran y llwybrau teithio llesol i’r dyfodol a grëwyd (Map Rhwydwaith Teithio Llesol 2022) | Gwella (cynnydd) |
CPEn15 | Gostyngiad yn y carbon sy’n gysylltiedig ag ynni drwy allyriadau adeiladau CBSW neu ar y trywydd iawn i sicrhau gostyngiad mewn allyriadau carbon sy’n gysylltiedig ag ynni (gan gynnwys tynnu carbon o brosesau cynhyrchu) | Gwella (gostyngiad) |
CPEn16 | Canran y busnesau bach, canolig a mawr yn ein cadwyn gyflenwi gyda Chynlluniau Gostwng Carbon | Gwella (cynnydd) |
CPEn17 | Gostyngiad yn yr allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â’n cadwyn gyflenwi | Gwella (gostyngiad) |
CPEn18 | Gorchudd Canopi Coed | Gwella (cynnydd) |
CPEn19 | Metrau sgwâr o fannau agored a reolir er budd bioamrywiaeth | Gwella (cynnydd) |
CPEn20 | Gostyngiad mewn allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â gwastraff tirlenwi | Gwella (gostyngiad) |
CPEn21 | Canran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio | Gwella (cynnydd) |
Fframwaith Rheoli Perfformiad Datblygu’r EconomiRhif mesur canlyniad | Disgrifiad mesur canlyniad | Beth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da? |
---|
CPEc1 | Buddsoddiad i gefnogi’r economi, wedi’i sicrhau gan CBSW drwy bortffolio’r Fargen Dwf | Cynnal |
CPEc2 | Gwerth Economaidd-Gymdeithasol (swyddi/cyllid) Canlyniadau Buddsoddi Cymwys a gefnogir gan y Gwasanaeth Cymorth i Fusnesau | Mesur gwaith newydd |
CPEc3 | Nifer y busnesau sy’n cael mynediad at Gefnogaeth y Cyngor | Gwella (cynnydd) |
CPEc4 | Cyfradd Eiddo Gwag yng Nghanol y Ddinas | Gwella (gostyngiad) |
CPEc5 | Nifer yr adeiladau gwag / nad ydynt yn cael eu defnyddio i’w potensial llawn a gaiff eu defnyddio eto o fewn 3 blynedd i ymyrraeth y cyngor | Gwella (cynnydd) |
CPEc6 | Nifer yr unigolion (cyflogwyr / gwirfoddolwyr) sydd wedi’u hachredu gan Gynllun Llysgenhadon Wrecsam i gefnogi’r sector twristiaeth a lletygarwch ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam | Gwella (cynnydd) |
CPEc7 | Nifer y canlyniadau swyddi - Cymunedau am Waith a Mwy | Cynnal |
Fframwaith Rheoli Perfformiad Sicrhau bod Wrecsam yn Lle Teg a DiogelRhif mesur canlyniad | Disgrifiad mesur canlyniad | Beth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da? |
---|
CPFs1 | Canran y plant a phobl ifanc y mae eu risg o Gaethwasiaeth Fodern wedi’i lleihau | Cynnydd (lle bo hynny’n ddiogel ac yn briodol) |
CPFs2 | Nifer y digwyddiadau / gweithgareddau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru i hyrwyddo integreiddio rhwng grwpiau a helpu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd cymunedol da | Cynnal |
CPFs3 | Canran y cwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau ar-lein ac yn teimlo ei bod yn hawdd cael mynediad at wasanaethau'r Cyngor ar ein gwefan | Cynnal |
CPFs4 | Canran y ceisiadau gwasanaeth trwy hunan wasanaeth yn hytrach na thrwy deleffonio wedi’i gyfryngu | Gwella (cynnydd) |
CPFs5 | Llai o amrywiad rhwng grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig (Deddf Cydraddoldeb 2010) o’i gymharu â demograffeg y Fwrdeistref Sirol, yng ngweithgareddau cynhwysiant y Cyngor | Gwella (lleihau’r amrywiad yn y grŵp gwarchodedig a nodwyd) |
CPFs6 | Canran yr aelwydydd ar y Cynlluniau Cartrefi i Wcráin ac Uwch-noddwr sydd wedi derbyn cefnogaeth i symud ymlaen i lety mwy hirdymor a chynaliadwy yn Wrecsam ac mewn ardaloedd eraill yng Nghymru a Lloegr | Cynnal (uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru) |
CPFs7 | Canran y bobl sydd wedi cael eu hadsefydlu dan gynllun y Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid a’r Cynllun Adleoli Unigolion Diamddiffyn (oedolion) sy’n cael mynediad at gyflogaeth, hyfforddiant, gwaith gwirfoddol neu addysg (gan eithrio Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) | Gwella (cynnydd) |
CPFs8 | Y cynnydd yn ein stoc dai o ganlyniad i adeiladau a chaffaeliadau newydd | Cynnal |
CPFs9 | Canran y stoc tai Cyngor sy’n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 | Gwella (cynnydd) |
CPFs10 | Nifer yr ymyriadau mewn eiddo rhent sector preifat i fynd i’r afael â pheryglon (peryglon fel y’u diffinnir yng nghanllawiau gweithredu Deddf Tai 2004) | Gwella (cynnydd) |
CPFs11 | Nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yn Wrecsam | Cynnal |
CPFs12 | Lleihau nifer y bobl a gaiff eu troi allan o eiddo CBSW a’u gwneud yn ddigartref | Gwella (gostyngiad) |
CPFs13 | Gostyngiad yn y cyfnod y mae pobl yn ei dreulio mewn llety gwely a brecwast neu westai | Cynnal |
Fframwaith Rheoli Perfformiad Gwella Addysg a DysguRhif mesur canlyniad | Disgrifiad mesur canlyniad | Beth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da? |
---|
CPEl1 | Mesur Canlyniadau Cynnydd CA4 | Mesur gwaith newydd |
CPEl2 | Canran y dysgwyr Cyfnod Allweddol Pedwar sy’n symud ymlaen i’r chweched dosbarth, coleg, prentisiaethau neu gyflogaeth | Gwella (cynnydd) |
CPEl3 | Presenoldeb cyffredinol mewn ysgolion uwchradd | Gwella (parhau i adfer yn unol â thueddiadau cenedlaethol) |
CPEl4 | Presenoldeb cyffredinol mewn ysgolion cynradd | Gwella (parhau i adfer yn unol â thueddiadau cenedlaethol) |
CPEl5 | Presenoldeb cyffredinol mewn ysgolion | Gwella (parhau i adfer yn unol â thueddiadau cenedlaethol) |
CPEl6 | Gostyngiad yn nifer y disgyblion y mae eu presenoldeb yn llai na 85% | Gwella (cynnydd) |
CPEl7 | Nifer y dysgwyr ar Gynllun Cefnogaeth Fugeiliol | Gwella (gostyngiad) |
CPEl8 | Nifer y dysgwyr â Chynllun Cefnogaeth Fugeiliol sy’n cael profiad pontio 16 cadarnhaol (Cynllun Cefnogaeth Fugeiliol) | Gwella (cynnydd) |
CPEl9 | Canran y disgyblion (gan ddefnyddio Agweddau Disgyblion atynt eu Hunain a'r Ysgol, PASS) sy’n ymateb mewn modd cadarnhaol i ba mor hyderus a llwyddiannus maent yn teimlo am eu galluoedd fel dysgwyr. | Gwella (cynnydd) |
CPEl10 | Mesur Canlyniadau Cynnydd - Prydau Ysgol am Ddim (PYADd) CA4 | Mesur gwaith newydd |
CPEl11 | Canran y dysgwyr ADY sy’n gadael Blwyddyn 11 ac yn pontio’n llwyddiannus o’r ysgol statudol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant | Gwella (cynnydd) |
CPEl12 | Canran y dysgwyr PYADd sy’n gadael Blwyddyn 11 ac yn pontio’n llwyddiannus o’r ysgol statudol i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. | Gwella (cynnydd) |
CPEl13 | Nifer yr adeiladau ysgol sy’n addas i’r diben ac yn bodloni categori cyflwr A neu B - Cynradd | Gwella (cynnydd) |
CPEl14 | Nifer yr adeiladau ysgol sy’n addas i’r diben ac yn bodloni categori cyflwr A neu B - Uwchradd | Gwella (cynnydd) |
Fframwaith Rheoli Perfformiad Hybu Iechyd a Lles da (gan ganolbwyntio ar wasanaethau cymdeithasol ac iechyd meddwl da)Rhif mesur canlyniad | Disgrifiad mesur canlyniad | Beth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da? |
---|
CPHw1 | Nifer y plant sy’n derbyn gofal | Cynnal |
CPHw2 | Canran y Plant sy’n Derbyn Gofal - darpariaeth breswyl fewnol | Gwella (cynnydd) |
CPHw3 | Canran y Plant sy’n Derbyn Gofal - lleoliadau maeth mewnol | Gwella (cynnydd) |
CPHw4 | Canran y Plant sy’n Derbyn Gofal sydd wedi symud lleoliad dair gwaith neu fwy | Cynnal |
CPHw5 | Nifer sy’n aros am ofal yn y cartref | Gwella (gostyngiad) |
CPHw6 | Nifer sy’n aros am asesiad Therapi Galwedigaethol statudol | Gwella (gostyngiad) |
CPHw7 | Cyfanswm y pecynnau ail-alluogi a gwblhawyd er mwyn lleihau, lliniaru neu gynnal yr angen am gefnogaeth | Gwella (cynnydd) |
CPHw8 | Sgôr gymedrig lles meddyliol ar gyfer pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd yn Wrecsam | Gwella (cynnydd) |
CPHw9 | Lles emosiynol gwell i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaeth cwnsela | Gwella (gostyngiad) |
CPHw10 | Canran y plant a welwyd ar eu pen eu hunain fel rhan o’u hasesiad | Gwella (cynnydd) |
CPHw11 | Canran y plant sy’n defnyddio’r Ap Mind of my Own | Gwella (cynnydd) |
CPHw12 | Nifer y plant sy’n cael eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant oedd wedi cael eu cofrestru’n flaenorol yn ystod y 12 mis diwethaf | Cynnal (lle bo hynny’n ddiogel ac yn briodol) |
CPHw13 | Nifer yr atgyfeiriadau oedolion mewn perygl (diogelu oedolion) a gwblhawyd o fewn yr amserlen statudol (7 diwrnod) | Cynnal |
Fframwaith Rheoli Perfformiad Cynnal Gweithlu Tra Medrus a Brwdfrydig sy’n Canolbwyntio ar Ddarparu GwasanaethauRhif mesur canlyniad | Disgrifiad mesur canlyniad | Beth sy’n cael ei ystyried yn berfformiad da? |
---|
CPWf1 | Canran y gweithlu sy’n cytuno â’r datganiad ‘rwy’n cael cyfleoedd i ddatblygu a gwella i’m potensial llawn’ | Gwella (cynnydd) |
CPWf2 | Canran y gweithwyr sy’n nodi eu bod yn cael eu cefnogi gan fentrau iechyd corfforaethol (arolwg gweithwyr) | Mesur gwaith newydd |
CPWf3 | O’r gweithlu sy’n gadael cyflogaeth â’r Cyngor yn ystod y flwyddyn; y canran o’r rhain a adawodd yn wirfoddol | Gwella/Cynnal (sefydlog) |
CPWf4 | *Bwlch cyflog rhwng y rhywiau; y gwahaniaeth rhwng enillion fesul awr dynion a merched fel canran o enillion dynion | Gwella (gostyngiad) |
CPWf5 | Canran y bobl sy’n fodlon â’r ddarpariaeth Gymraeg | Gwella (cynnydd) |