Mae rheoliadau adeiladu wedi'u llunio i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles pobl mewn ac o amgylch adeiladau.
Mae’r rheoliadau yn cyflenwi nifer o ffactorau sydd efallai angen eu hystyried mewn gwaith adeilad (er enghraifft sadrwydd strwythurol, diogelwch tân, diogelwch trydan, draenio). Maent hefyd yn helpu sicrhau mynediad a chyfleusterau i bobl anabl, yn ogystal ag annog y sgwrs ar danwydd a phŵer.
Os ydych yn berchen ar dŷ ac yn bwriadu adeiladu estyniad neu addasiad, efallai bydd arnoch angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu yn ogystal â chaniatâd cynllunio. Mewn rhai achosion, efallai bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer prosiect er nad oes angen caniatâd cynllunio.
Gwneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu
Mathau o gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu
Mae dwy ffordd o wneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu – drwy gais cynlluniau llawn neu gais hysbysiad adeiladu.
Sut i wneud cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu
I wneud cais am ffurflen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu, neu i gael gwybodaeth ynghylch ffioedd rheoliadau adeiladu, anfonwch e-bost at bc_admin@wrexham.gov.uk.
Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen gais, bydd arnoch angen ei dychwelyd drwy e-bost at bc_admin@wrexham.gov.uk neu ei argraffu allan a’i anfon at ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Adran Gynllunio, Stryt y Lampint, Wrecsam. LL11 1AR’.
Fel arall, gallwch ddefnyddio’r Porth Cenedlaethol Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol ‘Cyflwyno Cynllun’ i wneud cais.