Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 56 o gynghorwyr yn cynrychioli 47 ward. Cânt eu hethol yn ddemocrataidd bob pum mlynedd ac maen nhw’n ffurfio’r Cyngor Llawn. Y Cyngor Llawn yw’r corff sy’n gwneud penderfyniadau yn y pen draw, ac mae pob elfen arall o strwythur y cyngor yn deillio eu hawdurdod ohono.
Mae rheolaeth wleidyddol y cyngor yn cael ei goruchwylio gan gynghorwyr sy’n perthyn i nifer o grwpiau gwleidyddol. Mae’r cynghorwyr hyn yn rhan o amryw bwyllgorau, sy’n cynnwys:
- Y Cyngor Llawn
- Y Bwrdd Gweithredol
- Y Pwyllgor Cynllunio
- Pwyllgorau Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Pwyllgor Trwyddedu Amgylcheddol/Pwyllgor Trwyddedu
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Pwyllgorau Penodiadau
Disgwylir i Gynghorwyr fynychu cyfarfodydd y Cyngor Llawn a gellir eu penodi i bwyllgorau eraill hefyd.
Caiff Maer ei ethol bob blwyddyn ac mae’n cadeirio cyfarfodydd y cyngor, ond mae’n cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau dinesig hefyd.
Adrannau’r Cyngor
Fel awdurdod unedol, rydym yn darparu’r amrywiaeth lawn o wasanaethau awdurdod lleol mae pobl yn dibynnu arnynt. Rydym yn gweithredu trwy adrannau – mae gan bob un gyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau penodol i gefnogi nodau strategol a pholisïau corfforaethol y cyngor.
Mae rhestr o adrannau a’u cyfrifoldebau allweddol ar ein tudalen strwythur sefydliadol.