Yng Nghyngor Wrecsam rydym yn gweithio gyda sefydliadau lleol i ddarparu mynediad at gynnyrch mislif, am ddim er mwyn cefnogi pobl o aelwydydd incwm is. Ein nod yw sicrhau fod cynnyrch ar gael yn hawdd ac yn cael eu darparu yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol â phosibl.
Cefnogir y gwaith hwn gan grant Llywodraeth Cymru a’i weithredu mewn partneriaeth â’r elusen Wings Wrexham.
Ble i ddod o hyd i gynnyrch mislif am ddim yn Wrecsam
Ysgolion
Canolfannau dosbarthu banc bwyd Wrecsam
Mae’r holl ganolfannau dosbarthu â bocsys cynnyrch glanweithiol am ddim Wings Wrexham:
- Yr Hwb Lles, Wrecsam, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG
- Byddin yr Iachawdwriaeth, Parc Ffordd yr Ardd, Rhosddu, LL11 2NU
- Capel y Groes, Bodhyfryd, Wrecsam, LL12 7AG
- Eglwys Sant Marc, Ffordd Bryn Eglwys, Parc Caia, LL13 9LA
- Canolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, Fusilier Way, LL13 7YF
- Partneriaeth Parc Caia, Ffordd y Tywysog Siarl, LL13 8TH
- Eglwys Annibynnol Gwersyllt, Stryt yr Hôb, Gwersyllt, LL11 4NT
- Canolfan Hamdden Plas Madoc, Llangollen Rd, Acrefair, LL14 3HL
- Eglwys Sant Martin, Seithfed Rhodfa, Llai, LL12 0SB
Swyddfeydd Tai
Darperir cynnyrch ym mhob un o’n swyddfeydd ystâd tai lleol.
Lleoliadau eraill
Gallwch hefyd gael cynnyrch mislif o’r lleoliadau canlynol ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam:
Mathau o gynnyrch mislif
Cynnyrch untro sydd ar gael ym mwyafrif y lleoliadau yw:
- Padiau glanweithiol (Yn ystod y dydd)
- Padiau glanweithiol (Yn ystod y nos)
- Leiners Pantis
- Tamponau â gosodwr
Mae gan rhai lleoliadau gyflenwad ychwanegol o gynnyrch y gellir eu hailddefnyddio, megis:
- Padiau y gellir eu hailddefnyddio (yn ystod y dydd)
- Padiau y gellir eu hailddefnyddio (yn ystod y nos)
- Nicers y gellir eu hailddefnyddio
- Mooncups