O dro i dro, mae Cynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn galw ar aelodau i fod ar baneli annibynnol sy’n gwneud penderfyniadau am apeliadau derbyn a gwahardd disgyblion ysgol.
Os ydych chi’n gymwys, gallwch ymgeisio i fod yn aelod o banel.
Sut mae’r paneli’n gweithio?
Mae paneli fel rheol yn gwrando ar apeliadau wyneb yn wyneb.
Mae'r materion sy'n cael eu hystyried gan y ddau banel yn eithaf gwahanol, ond mae’r ffordd mae’r panel yn cael ei weinyddu’n debyg ar gyfer y ddau fath o apêl.
Mae’r panel yn cael cymorth gan glerc sy’n gofalu bod y ffeithiau perthnasol yn cael eu darparu a bod gwrandawiadau apêl yn cael eu cynnal yn deg ac yn briodol. Mae’r clerc yn ffynhonnell annibynnol o gyngor ar y weithdrefn a thystiolaeth. Mae’n cofnodi’r trafodion, y penderfyniadau a’r rhesymau, cyn rhoi gwybod i bob ochr am benderfyniad y panel. Gall y panel wahodd y clerc i aros tra maen nhw’n ystyried apêl, ond nid yw’r clerc yn cymryd rhan yn y broses benderfynu.
Mae’r panel yn pwyso a mesur yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd iddynt yn ofalus ac yn wrthrychol cyn dod i benderfyniad terfynol am yr apêl.
Nid oes unrhyw hawl bellach i apelio yn y materion hyn.
Ynglŷn â rôl aelod o banel
Dyma’r sgiliau rydym ni’n chwilio amdanynt:
- y gallu i wrando yn ddiduedd a gwerthuso dadleuon a thystiolaeth a gyflwynwyd gan y ddwy ochr
- pendantrwydd – gan fod rhaid gwneud penderfyniad am yr apêl yn fuan ar ôl gwrando arni
- hyblygrwydd – bydd angen i chi fod yn hyblyg gyda’ch amser, gan fod apeliadau ar y cyfan yn cael eu clywed yn ystod oriau gwaith (gofynnir i chi a ydych chi ar gael cyn trefnu gwrandawiad apêl bob amser)
Nid yw bob ar banel yn swydd â thâl, ond bydd costau teithio i ac o leoliad yr apêl yn cael eu talu.
Mae’r rhestr o aelodau’n cael ei chadw gan awdurdodau Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Efallai y bydd gofyn i chi fod ar unrhyw un o’r paneli, gan ddibynnu pa bryd rydych chi ar gael a’ch dewisiadau ar eich ffurflen gais.
Cyn y gofynnir i chi eistedd ar unrhyw banel apêl, byddwch yn derbyn hyfforddiant priodol.