Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy’n chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol.
Mae cyrff llywodraethu yn cynnwys bobl leol ac maent yn cynnwys rhieni, pobl a benodwyd gan yr awdurdod lleol, staff ysgol a’r pennaeth. Gallant hefyd gynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol a chynrychiolwyr o’r eglwys. Bydd y nifer o aelodau yn dibynnu ar faint yr ysgol.
Mae llywodraethwyr ysgol yn rhoi eu hamser, sgiliau ac arbenigedd fel gwirfoddolwyr i helpu eu hysgolion i ddarparu’r addysg orau posibl i blant.
Beth mae corff llywodraethu yn ei wneud?
Gwybodaeth ar gyfer darpar lywodraethwyr
Mae gwirfoddoli fel llywodraethwr ysgol yn rhoi cyfle i chi helpu i osod cyfeiriad strategol ysgol, ehangu eich sgiliau a’ch rhwydwaith, gan adeiladu profiad ar lefel bwrdd. Mae’n gyfle i weld effaith eich penderfyniadau’n uniongyrchol.
Dod yn llywodraethwr awdurdod lleol
Rydym yn gweithio gyda’r elusen addysg Governors for Schools i helpu mwy o bobl yn ein cymunedau i gefnogi addysg leol trwy’r rôl hanfodol hon.
Mae Governors for Schools yn ymrwymo i helpu sicrhau fod addysg ragorol yn cael ei ddarparu i blant mewn ysgolion trwy lywodraethu effeithiol.
Gwnewch gais drwy Governors for Schools
Bydd angen i chi greu cyfrif gyda’r elusen i allu gwneud cais.
Gallwch hefyd ganfod mwy am rôl llywodraethwyr ysgol a rhagor o adnoddau ar wefan yr elusen.
Gwybodaeth i lywodraethwyr
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth anfonwch neges i governorsupport@wrexham.gov.uk.