Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sgil newydd, rhoi hwb i’ch cyfleoedd gyrfaol neu gysylltu ag eraill mewn modd cefnogol a hwyliog; yna gallai cwrs Dysgu Oedolion yn y Gymuned fod yn ddelfrydol i chi. 

Gan weithio gyda Chyngor Sir y Fflint, rydym wedi ffurfio partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru.  

Rydym yn ceisio darparu cyfleoedd dysgu oedolion o ansawdd yn ein cymunedau, ar gyfer unrhyw un 19 oed a throsodd. 

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddarparu: 

  • cyrsiau ymgysylltu a chyngor a sesiynau untro - os ydych yn chwilio am ddiddordeb neu sgil newydd ac yn dymuno cwrdd â phobl o’r un meddylfryd.
  • cyrsiau achrededig (sy’n cael eu cydnabod yn swyddogol) - os ydych angen cymhwyster penodol i symud ymlaen yn eich gyrfa. 

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o ddarparwyr hyfforddiant i ddarparu cyrsiau ledled Wrecsam a Sir y Fflint, er mwyn bodloni anghenion ein cymunedau.

Darparwyr cyrsiau

Yn Wrecsam, ein darparwr arweiniol yw Groundwork Gogledd Cymru, sy’n cynnig amrywiaeth o sesiynau a chyrsiau cyffrous a diddorol, ond rydym yn cydweithio â nifer o bartneriaid ar draws y rhanbarth i wneud yn siŵr y gallwn gynnig y cwrs iawn i chi.

Gwybodaeth am Groundwork Gogledd Cymru

Mae Groundwork Gogledd Cymru yn cefnogi pobl sy’n wynebu nifer o heriau, sy’n byw ar eu pen eu hunain, sydd â phroblemau iechyd sylweddol, sydd â rhagolygon gwaith cyfyngedig ac sy’n agored i ansicrwydd economaidd ac amgylcheddol y gymdeithas sydd ohoni.

Maen nhw’n ceisio creu gwell lleoedd, gwella rhagolygon pobl a hyrwyddo dewisiadau mwy gwyrdd drwy amrywiaeth o brosiectau a gwasanaethau.

Mae’r ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned y mae Groundwork Gogledd Cymru yn ei chynnig yn cynnwys:

  • cymorth i bobl sy’n cymryd y cam cyntaf tuag at ddysgu 
  • helpu datblygu sgiliau am oes a gwreiddio sgiliau sylfaenol 
  • cyrsiau cyflogadwyedd a chyflogaeth
  • cyfleoedd dysgu fel teulu
  • amrywiaeth o gyrsiau blasu ac ymgysylltu

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Fel dysgwr rydym yn eich annog i roi gwybod am unrhyw anghenion dysgu sydd gennych pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cwrs, er mwyn i ddarparwr y cwrs sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth gywir. 

Mae gennym weithdrefnau i nodi a ble bo’n briodol, i asesu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mathau o gefnogaeth

Os ydym yn gwybod fod gennych anghenion dysgu ychwanegol mae rhai ffyrdd y gallwn ddarparu cefnogaeth, gan gynnwys: 

  • Cyngor ac atgyfeiriadau i ystod o asiantaethau arbenigol sy’n gallu eich cefnogi 
  • Offer cynorthwyol a chefnogaeth symudedd 
  • Trefniadau mynediad i arholiad neu ostyngiadau
  • Cymorth gyda gwaith cwrs a gwaith cartref 
  • Cymorth gyda dysgu o fewn a thu allan i’r dosbarth. 
  • Cefnogaeth mewn tiwtorial gyda thiwtor cwrs 
  • Cefnogaeth a gwybodaeth lles
  • Cymorth lles i sicrhau eich bod yn gallu aros ar y trywydd cywir  
  • Cofnodwyr nodiadau neu recordiad ar dâp os byddwch yn cael unrhyw anhawster yn cymryd nodiadau
  • Cefnogaeth gyfathrebu Iaith Arwyddion Prydain
  • Dyfeisiau clyw cynorthwyol os oes gennych nam ar y clyw
  • Meddalwedd ac adnoddau arbenigol, cynorthwyol neu alluogi 

Gallwch gael mynediad i unrhyw un o’r gwasanaethau uchod mewn sawl ffordd:

  1. Drwy roi gwybod i ni pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cwrs a llenwi eich ffurflen gofrestru 
  2. Siarad gyda’ch tiwtor, a fydd yn gallu gofyn am gefnogaeth ar eich rhan
  3. Cysylltu â’n tîm dysgu oedolion yn y gymuned ar unrhyw adeg yn ystod eich cwrs 

Cost

Mae ein holl Gyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn rhad ac am ddim. 

Os ydych chi’n derbyn mynediad at gyrsiau gan ddarparwyr eraill a lle bo cost ar gyfer y cwrs efallai y gallech ofyn am gymorth i dalu amdano. 

Mae modd cysylltu â ni ar acl@wrexham.gov.uk gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych ac fe wnawn ein gorau i gynorthwyo.  

Os ydych chi angen trefnu gofal plant yna gwiriwch ein tudalen cymorth gyda chostau gofal plant

Mae modd canfod gwybodaeth am gymorth ariannol cyffredinol hefyd ar ein tudalennau ‘Cymorth gyda chostau byw’ grantiau a budd-daliadau a biliau’r cartref.

Dod o hyd i gyrsiau a chofrestru 

Mae modd canfod manylion cyrsiau sydd i ddod ar Facebook (nid oes angen cyfrif arnoch i weld y dudalen):

Mae modd cysylltu â’r darparwr yn uniongyrchol a byddant yn egluro’r broses gofrestru i chi ac yn sicrhau eich bod ar y cwrs cywir i chi. Mae modd rhoi gwybod iddynt y dull cysylltu a ffefrir gennych hefyd (naill ai dros y ffôn neu drwy e-bost). 

Cysylltu â'r tîm

E-bost: acl@wrexham.gov.uk

Cwynion

Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gogledd Ddwyrain Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych chi yn effeithiol.  Ein nod yw egluro unrhyw faterion rydych chi’n ansicr ohonyn nhw. 

Os gallwn ni, byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau a wnaed. Rydym yn ceisio dysgu o gamgymeriadau a defnyddio’r wybodaeth i wella ein gwasanaethau. 

Dilynwch y weithdrefn gwynion gyffredinol (ar gyfer cwynion i Gyngor Wrecsam) os oes gennych chi unrhyw broblem. Mae rhagor o wybodaeth am sut y byddwn ni’n delio â chwynion i’w gweld ar y dudalen we cwynion a chanmoliaeth.