Mae Dechrau'n Deg Wrecsam yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plant o 0 oed hyd at eu pen-blwydd yn 4 oed a'u rhieni/gofalwyr, sydd yn byw mewn rhannau penodol o Wrecsam.
Nod y rhaglen yw helpu plant a phobl ifanc i gael y dechreuad gorau posibl mewn bywyd ar gyfer eu twf a’u datblygiad yn y dyfodol. Caiff rhieni/gofalwyr gefnogaeth i’w helpu ddarparu’r amgylchedd mwyaf cadarnhaol ar gyfer lles eu plant yn ystod eu blynyddoedd cynnar.
Mae holl wasanaethau Dechrau'n Deg am ddim i deuluoedd.
Mae Dechrau’n Deg yn cynnig y canlynol i deuluoedd:
- ymweliad â’r cartref gan y Tîm Iechyd a Rhianta yn cynnwys gwasanaeth ymwelydd iechyd gwell
- mynediad at gefnogaeth i rieni a grwpiau rhianta
- gofal plant rhan-amser o ansawdd wedi’i ariannu ar gyfer plant 2-3 oed
- cefnogaeth ar gyfer datblygiad iaith a chyfathrebu cynnar
Rhagor am yr hyn y gall Dechrau’n Deg ei ddarparu
Cysylltu â ni
Ebost: flying.start@wrexham.gov.uk
Cydlynydd Gwasanaeth, Rheolwr Iechyd ac Arweinydd Rhianta
01978 298300
Arweinydd gofal plant (yn ystod y tymor yn unig)
01978 297270