Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol (ADY) os oes ganddi neu ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p’un ai yw’r anhawster dysgu neu anabledd yn deillio o gyflwr meddygol neu beidio) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY).
Beth rydym yn ei wneud
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae gwella canlyniadau a chodi dyheadau ein plant a’n pobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig (AAA)/ anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn flaenoriaeth uchel gennym.
Fel awdurdod lleol rydym yn gweithio gyda’n lleoliadau, ysgolion a cholegau i gefnogi plant a phobl ifanc gydag ADY.
Codau perthnasol
Pryd mae pob cod yn berthnasol?
Cod AAA
Ar gyfer achosion presennol AAA sydd heb gael eu trosi i’r system ADY newydd eto.
Cod ADY
Ar gyfer achosion newydd ble mae anghenion plentyn neu berson ifanc wedi eu hystyried ers Ionawr 2022 neu ble mae proses drosi wedi digwydd ar gyfer y sawl oedd yn cael eu nodi yn flaenorol drwy’r Cod Ymarfer AAA.
Y Gwasanaeth Cynhwysiant
Mae ein Gwasanaeth Cynhwysiant yn gweithio gyda theuluoedd, ysgolion/lleoliadau ac asiantaethau proffesiynol i gefnogi plant a phobl ifanc gydag AAA/ADY.
Mae’r gwasanaeth yn dilyn y fframwaith cyfreithiol presennol yng Nghymru sy'n cynnwys:
- Cod Ymarfer AAA Cymru (2002)
- Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002
- Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (2018)
- Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (2021)
Os oes gan eich plentyn Ddatganiad o AAA, mae’r cod ymarfer AAA yn berthnasol. Os ystyrir fod gan eich plentyn ADY, gyda CDU neu’n trawsnewid i CDU, yna mae’r Cod ADY yn berthnasol.
Mae pob un o’n hysgolion prif ffrwd yn anelu i ddarparu amgylchedd dysgu cynhwysol i blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw pob plentyn yn ffynnu mewn amgylchedd cynhwysol, prif ffrwd. Gall penderfyniad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gael ei wneud y byddai darpariaeth arbenigol yn ateb eu hanghenion yn well. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau ag adnoddau, ysgolion arbennig a cholegau arbennig.
Pa gymorth gallwn ni ei ddarparu?
Ar gyfer holl ymholiadau sy’n ymwneud â’r gwasanaethau canlynol, cysylltwch ag ysgol eich plentyn i ddechrau.
Mae gan y Gwasanaeth Cynhwysiant amrywiaeth o dimau i helpu plant a phobl ifanc gydag AAA/ADY. Mae hyn yn cynnwys: