Rydym ni (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn awyddus i benodi 2 aelod lleyg i’n Pwyllgor Safonau.
Gallai’r rôl hon fod yn addas i chi os yw’r rhinweddau canlynol gennych:
- Eich bod yn un da am wrando
- Bod gennych natur chwilfrydig
- Eich bod yn gallu pwyso a mesur tystiolaeth anghyson a dod i gasgliad effeithiol
- Eich bod yn gallu gweithio fel rhan o dîm
- Bod gennych barch at eraill a dealltwriaeth a pharch at werthoedd moesegol cryf
- Eich bod yn onest ac yn rhywun o gymeriad da
Mae'r pwyllgor statudol hwn yn cynnwys 5 aelod annibynnol, 3 chynrychiolydd o’r Cyngor Bwrdeistref Sirol a chynrychiolydd o Gyngor Cymuned.
Cyfrifoldebau’r pwyllgor
Mae’r Pwyllgor Safonau’n hanfodol i gynnal safonau moesegol uchel ar lefel y Fwrdeistref Sirol a’r Cynghorau Cymuned.
Yn fyr, ei nodau yw cynghori, cynorthwyo ac arwain Aelodau wrth fabwysiadu, arolygu, gweithredu, gorfodi ac adolygu amryw godau ymddygiad lleol a chanllawiau egwyddorol eraill.
Hyd y Swydd
Caiff aelodau annibynnol eu penodi am gyfnod rhwng 4 a 6 blynedd a gallant gael eu penodi am un tymor olynol arall.
Argaeledd
Fel arfer, bydd y Pwyllgor Safonau’n cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn er y bydd angen i aelodau annibynnol fod ar gael yn hyblyg gan fod y Pwyllgor weithiau’n gorfod cael ei alw i gyfarfodydd heb eu trefnu gydag ond ychydig ddyddiau o rybudd.
Tâl (cydnabyddiaeth ariannol)
Bydd gan yr unigolyn a benodir yr hawl i dâl am roi o’u hamser a gallant hawlio costau teithio o ganlyniad i fynd i gyfarfodydd. Mae'r tâl yn unol â'r cyfraddau a bennir gan Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (dolen gyswllt allanol).
Gwaharddiadau
Yn ôl y gyfraith, ni allwch fod yn aelod annibynnol os ydych:
- ar hyn o bryd yn gynghorydd neu’n swyddog (neu’n gymar neu’n bartner sifil cynghorydd neu swyddog) i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, nac unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol arall, awdurdod tân, awdurdod parc cenedlaethol na chyngor cymuned/tref
- yn gyn-gynghorydd neu’n swyddog i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- yn gyn-gynghorydd neu’n swyddog i unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, awdurdod tân nac awdurdod parc cenedlaethol tan o leiaf un flwyddyn ar ôl peidio â bod yn gynghorydd/swyddog i’r awdurdod hwnnw.
Mae’r Cyngor wedi cytuno ymhellach na ddylai aelodau annibynnol:
- fod wedi delio o’r blaen i raddau helaeth gyda’r Cyngor mewn modd a allai danseilio eu gallu i fod yn ddiduedd
- bod â pherthynas agos gydag unrhyw aelod neu swyddog o’r Cyngor
Sut i ymgeisio
Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio ein ffurflen gais ar-lein.
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau gyda’r broses ymgeisio cysylltwch â committees@wrexham.gov.uk.