Sut mae’r system yn gweithio i blant sydd â hawl i brydau am ddim?
Mae talu am brydau wrth y til yn gweithio yr un fath i ddisgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim – maent yn sganio eu bysedd neu yn nodi eu rhifau pin. Bydd pob disgybl sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn aros yn gwbl ddienw.
Mae’r swm a ganiateir ar gyfer prydau ysgol am ddim yn cael ei nodi ar gyfrif y disgybl yn ddyddiol gan y feddalwedd. Mae unrhyw danwariant neu unrhyw bryd a fethir yn cael ei nodi gan y system ac ni fydd yn cael ei ychwanegu at falans y diwrnod canlynol.
Mewn ysgolion uwchradd, gall y disgybl ddewis gwario’r lwfans dyddiol ar unrhyw adeg yn ystod y dydd (brecwast, byrbrydau yn ystod egwyliau neu amser cinio). Fodd bynnag, bydd rhaid i’r disgybl roi mwy o arian ar ei gyfrif i dalu am unrhyw bryniad sydd yn fwy na’r lwfans dyddiol, yn defnyddio’r peiriant adbrisio.
A oes modd atal pryniadau o fwydydd penodol ar y system bwyta heb arian?
Oes, gall y system atal unigolyn rhag prynu mathau penodol o fwyd drwy gydol y dydd neu yn ystod cyfnodau penodol. Os oes gan ddisgybl alergedd at fwyd neu os yw’n dioddef â diabetes gellir atal pryniadau o fwydydd neu grwpiau o fwydydd penodol ar y system a bydd gweithiwr y til yn gweld rhybudd ar y sgrin.
A yw ysgolion yn gallu darparu gwybodaeth ynglŷn â sut mae’r system yn cael ei defnyddio?
Ydyn, gallwch gael adroddiadau o’r system drwy gysylltu â chegin yr ysgol (nid oes modd eu gyrru drwy’r post). Gellir cael adroddiadau ar ddiwrnodau penodol neu rhwng unrhyw ddau ddyddiad, ac maent yn cynnwys dyddiadau ac amseroedd. Gallwch gael adroddiadau sy’n dangos...
- Pob eitem o fwyd a werthwyd i’r cyfrif hwnnw a chost pob pryd.
- Pob taliad unigol a wnaed yn uniongyrchol i’r ysgol gyda siec neu arian parod neu drwy arian ar y system gan ddefnyddio’r peiriant.
- Pob taliad a wnaed gan y disgybl yn defnyddio’r uned adbrisio, yn cynnwys nifer y darnau arian unigol a’u gwerth.
- Pob trafodyn yn cynnwys enw pob dim a brynwyd.
Trin data
Cedwir data penodol ar y system (enw eich plentyn, dosbarth, balans y cyfrif a hawl i brydau) er mwyn sicrhau gweithrediad cywir. Caiff y data hwn ei drin yn unol â chanllawiau'r ddeddf diogelu data a chaiff ei ddefnyddio gan bartïon sydd yn uniongyrchol gysylltiedig â’r ysgol yn unig.