Mae’n rhaid i gofrestrydd a chofrestrydd arolygol fynd i bob priodas sifil a phartneriaeth sifil yn yr ardal y mae’r seremoni’n cael ei chynnal.  

Os yw eich seremoni mewn lleoliad sydd wedi ei gymeradwyo yn Wrecsam, bydd angen i gofrestrydd yn ardal Wrecsam fod yn bresennol.

Mae eich cais dros dro am gofrestrydd yn cadw slot amser er mwyn i gofrestrydd ddod i’ch seremoni yn unig. Nid oes modd i’ch priodas neu bartneriaeth sifil ddigwydd nes bod eich hysbysiadau wedi’u cyflwyno (edrychwch ar ein tudalen ‘cyflwyno hysbysiad’).

Sut i fynd ati i drefnu

Bydd angen i chi gadarnhau dyddiad ac amser a ffefrir â lleoliad sydd wedi ei gymeradwyo, neu gyda'n swyddfa gofrestru (ar yr amod bod dyddiad ar gael). 

Pan fo dyddiad wedi’i gadarnhau, anfonwch e-bost at ceremonies@wrexham.gov.uk â’r wybodaeth ganlynol: 

  • Enwau’r cwpwl
  • Enw’r lleoliad
  • Dyddiad ac amser y seremoni 
  • Y rhif ffôn sydd orau ar gyfer cysylltu â chi 

Bydd angen i chi dalu ffi archebu na ellir cael ad-daliad amdani pan fyddwch chi’n trefnu dyddiad (byddwn ni’n cadarnhau'r swm pan fyddwch chi’n cysylltu â ni).

Prisiau seremoni

Costau seremoni 1 Ebrill, 2024 - 31 Mawrth, 2025

Swyddfa gofrestru

Dydd Mawrth a dydd Mercher £56 

Ystafell y Seremoni

Dydd Llun i ddydd Iau - £195

Dydd Gwener a Dydd Sadwrn £250

Safleoedd wedi’u cymeradwyo

Dydd Llun i ddydd Iau - £490

Dydd Gwener - £530

Dydd Sadwrn £540

Dydd Sul £610

Gŵyl y Banc £630

Eglwys neu gapel

£104 (pan fo’r cofrestrydd yn bresennol)