Mae tâl premiwm yn swm ychwanegol o Dreth y Cyngor i'w dalu ar ben y bil Treth y Cyngor arferol.
O 1 Ebrill, 2017 fe wnaethom godi premiwm o 50% dros y tâl safonol (cyfanswm o 150% o dâl) ar eiddo gwag hirdymor ac eiddo a ystyrir yn ail gartrefi.
Ers mis Ebrill 2023 mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol godi cyfradd premiwm o hyd at 300% yn uwch na’r tâl safonol ar berchnogion tai am eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi.
Mae hyn wedi’i wneud er mwyn helpu cynghorau i:
- annog perchnogion cartrefi i beidio gadael eu heiddo'n wag a heb ei feddiannu yn ddiangen am gyfnodau hir o amser.
- dod â chartrefi gwag hir dymor ac ail gartrefi yn ôl i ddefnydd er budd y gymuned leol a’r economi.
Beth sy’n cyfrif fel eiddo gwag hirdymor neu ail gartref?
Eiddo gwag hirdymor yw:
Eiddo sydd yn wag a heb fawr ddim dodrefn ynddo am gyfnod parhaus o leiaf blwyddyn.
Ail gartref yw:
Annedd sydd ddim yn unig neu’n brif breswylfa i rywun ac sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol.
Premiwm Treth Cyngor ar gartrefi gwag hirdymor yn Wrecsam
O 1 Ebrill 2024
- Codir premiwm o 100% dros y tâl safonol ar bob cartref gwag hirdymor (cyfanswm o 200%)
- Codir tâl premiwm ychwanegol o 50% ar dai gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag am gyfnod parhaus o 4 blynedd neu fwy dros y codiadau arfaethedig (cyfanswm o 250%)
O 1 Ebrill 2025
- Codir premiwm o 200% dros y tâl safonol ar bob cartref gwag hirdymor (cyfanswm o 300%)
- Codir tâl premiwm ychwanegol o 50% ar dai gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag am gyfnod parhaus o 4 blynedd neu fwy dros y codiadau arfaethedig (cyfanswm o 350%)
Incwm o bremiymau Treth y Cyngor
Byddwn yn defnyddio’r refeniw a gynhyrchir ac a gesglir o bremiwm Treth y Cyngor i gyflawni:
- gwasanaethau i atal digartrefedd a threchu tlodi
- prosiectau sy'n sicrhau bod ein cymunedau'n gynaliadwy
Nid oes angen i'r symiau a godir o bremiwm Treth y Cyngor gael eu neilltuo.
Yn 2022/23, y premiwm a godwyd o eiddo gwag hirdymor oedd £216,541. Yn ystod y flwyddyn, roedd 531 eiddo yn destun premiwm.
Yn 2022/23, y premiwm a godwyd o eiddo gwag hirdymor oedd £163k. Yn ystod y flwyddyn, roedd 465 eiddo yn destun premiwm.