Mae rheoliadau wedi’u targedu sy’n cael eu harwain gan wybodaeth yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo tegwch ac amddiffyniad rhag niwed. Mae’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn cydnabod yn llwyr fod angen i reoliadau fod yn gymesur ac yn hyblyg. Mae angen rheoleiddwyr da ar fusnesau, ac mae rheoleiddwyr da yn gweithio’n adeiladol gyda busnesau i sicrhau cystadleuaeth dda, a chefnogi economïau lleol sy’n ffynnu. 

Mae’r polisi’n gymwys i’r gwaith gorfodi rydym yn ei gyflawni gyda’r cyhoedd hefyd. Pan fo’n briodol, byddwn yn rhannu cyngor a gwybodaeth gyda’r cyhoedd. Serch hynny, dan rhai amgylchiadau, efallai bydd camau gorfodi uniongyrchol yn angenrheidiol. Bydd camau gorfodi o’r fath ond yn cael eu cymryd pan mae’r adrannau perthnasol yn y polisi hwn wedi cael eu hystyried.