Mae Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru’n dymuno penodi pobl ymroddgar i wasanaethu fel aelodau cyfetholedig o 01/11/24 tan 31/10/2028 er mwyn cefnogi a chraffu ar waith Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Mae rôl Aelod o’r Panel yn un bwysig a heriol, a disgwylir i’r Aelodau gynnal safonau uchel o ran uniondeb personol bob amser a bod yn barchus o eraill.
Gwahoddir ceisiadau gan bobl y mae ganddynt ddiddordeb ac sy’n deall pwysigrwydd gwasanaethau cyhoeddus a sut y maent yn cael eu darparu, ac sydd â diddordeb mewn diogelwch cymunedol a materion yn ymwneud â phlismona a chyfiawnder troseddol. Mae’r Panel Heddlu a Throsedd yn dymuno adlewyrchu holl gymunedau gogledd Cymru, ac yn croesawu ceisiadau gan bob unigolyn cymwys ac o bob rhan o gymdeithas.
I wneud cais, bydd angen i chi allu dod i o leiaf 5 cyfarfod bob blwyddyn a gynhelir ym Modlondeb, Conwy, yn ystod y diwrnod gwaith arferol. Caiff aelodau’r Panel Heddlu a Throsedd gydnabyddiaeth ariannol yn unol â threfniadau’r Panel Heddlu a Throsedd.