Beth yw penodai?
Mae rhai sy’n hawlio budd-daliadau yn methu rheoli eu materion budd-daliadau fel arfer oherwydd anallu meddyliol neu anabledd corfforol difrifol.
Gallwch wneud cais i fod yn benodai i reoli incwm budd-dal ar ran defnyddiwr gwasanaeth os ydych yn berson addas (fel perthynas, ffrind neu gyfreithiwr).
Os nad oes neb arall yn gallu neu’n addas i wneud, mae’n bosib i ni (Cyngor Wrecsam) wneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gael ein penodi i weithredu ar ran yr unigolyn sy’n hawlio budd-dal er mwyn delio gyda’u budd-daliadau.
Beth yw dirprwy?
Gall defnyddiwr gwasanaeth fod ag angen parhaus i rywun wneud penderfyniadau ar eu rhan gan fod diffyg gallu â nhw i wneud penderfyniadau o’r fath eu hunain.
Gall dirprwy wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â holl asedau ac arbedion ariannol. Fel arfer mae’r rôl yn cynnwys rheoli cyfrifon banc, pensiynau ac asedau ariannol eraill ar ran bobl. Ni all dirprwyon wneud unrhyw benderfyniadau heblaw’r rhai y mae’r Llys Gwarchod wedi awdurdodi iddyn nhw ei gwneud.
Gallwch wneud cais i fod yn ddirprwy i wneud penderfyniadau ar ran defnyddiwr gwasanaeth os ydych yn berson addas (fel perthynas, ffrind neu gyfreithiwr).
Mewn amgylchiadau lle nad oes unrhyw un arall ar gael sy’n gallu neu’n addas i wneud y gwaith byddwn ni (Cyngor Wrecsam) yn gallu gwneud cais i’r Llys Gwarchod i gael ein penodi fel dirprwy i reoli materion ariannol yr unigolyn.
Beth yw atwrneiaeth arhosol?
Atwrneiaeth arhosol yw dogfen gyfreithiol sy’n penodi un neu fwy o bobl i gynorthwyo i wneud penderfyniadau neu i wneud penderfyniadau ar ran unigolyn arall.
Mae 2 fath o atwrneiaeth arhosol:
Iechyd a lles
I roi pŵer i’r atwrnai i wneud penderfyniadau am bethau fel:
- trefn ddyddiol, er enghraifft ymolchi, gwisgo, bwyta
- gofal meddygol
- symud i gartref gofal
- triniaeth cynnal bywyd
Eiddo a materion ariannol
I roi pŵer i’r atwrnai i wneud penderfyniadau am arian ac eiddo ar eich rhan, er enghraifft:
- rheoli cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
- talu biliau
- casglu budd-daliadau neu bensiwn