Beth yw penodai?

Mae rhai sy’n hawlio budd-daliadau yn methu rheoli eu materion budd-daliadau fel arfer oherwydd anallu meddyliol neu anabledd corfforol difrifol. 

Gallwch wneud cais i fod yn benodai i reoli incwm budd-dal ar ran defnyddiwr gwasanaeth os ydych yn berson addas (fel perthynas, ffrind neu gyfreithiwr).

Os nad oes neb arall yn gallu neu’n addas i wneud, mae’n bosib i ni (Cyngor Wrecsam) wneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gael ein penodi i weithredu ar ran yr unigolyn sy’n hawlio budd-dal er mwyn delio gyda’u budd-daliadau.

Beth yw dirprwy?

Gall defnyddiwr gwasanaeth fod ag angen parhaus i rywun wneud penderfyniadau ar eu rhan gan fod diffyg gallu â nhw i wneud penderfyniadau o’r fath eu hunain. 

Gall dirprwy wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â holl asedau ac arbedion ariannol.  Fel arfer mae’r rôl yn cynnwys rheoli cyfrifon banc, pensiynau ac asedau ariannol eraill ar ran bobl.  Ni all dirprwyon wneud unrhyw benderfyniadau heblaw’r rhai y mae’r Llys Gwarchod wedi awdurdodi iddyn nhw ei gwneud.

Gallwch wneud cais i fod yn ddirprwy i wneud penderfyniadau ar ran defnyddiwr gwasanaeth os ydych yn berson addas (fel perthynas, ffrind neu gyfreithiwr).

Mewn amgylchiadau lle nad oes unrhyw un arall ar gael sy’n gallu neu’n addas i wneud y gwaith byddwn ni (Cyngor Wrecsam) yn gallu gwneud cais i’r Llys Gwarchod i gael ein penodi fel dirprwy i reoli materion ariannol yr unigolyn.