Rhaglen diogelu genedlaethol yw ‘Prevent’ sydd yn cefnogi pobl sydd mewn perygl o ymwneud â therfysgaeth trwy gael eu radicaleiddio.
Mae Adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff penodol (yn cynnwys Cynghorau lleol), wrth ymgymryd â’u swyddogaethau, i roi “sylw dyledus i’r angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth”.
Nod strategaeth Prevent yw lleihau’r bygythiad i’r DU o derfysgaeth trwy atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae Prevent yn ymwneud â diogelu unigolion diamddiffyn rhag cael eu radicaleiddio a’u denu mewn i derfysgaeth, gan sicrhau eu bod yn cael cyngor a chefnogaeth briodol.
Yn ardal Wrecsam, mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam yn gyfrifol am sicrhau bod dyletswydd Prevent yn cael ei fodloni.