Ardaloedd ledled y Deyrnas Unedig yw’r Parthau Buddsoddi, lle mae llywodraeth ganolog a lleol yn gweithio gyda phartneriaid lleol a busnes i greu'r cyflyrau ar gyfer buddsoddi ac arloesi.
Bydd Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn gwella sector gweithgynhyrchu uwch y rhanbarth.
Cyfleoedd i fusnes
Mae'r prosiect yn ei gamau cynnar, ond os ydych chi'n gweithio yn y sector gweithgynhyrchu uwch, cysylltwch â ni i ddysgu mwy am gyfleoedd i'ch busnes.
E-bost: investment@wrexham.gov.uk
Trosolwg o’r prosiect
Mae Sir y Fflint a Wrecsam eisoes yn gartref i weithrediadau gweithgynhyrchu gwerth uchel a safleoedd diwydiannol strategol.
Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar hyn drwy gynnig cyfuniad unigryw o gefnogaeth, seilwaith a chymhellion wedi'u targedu er mwyn denu a chynnal busnesau.
Mae disgwyl i'r Parth Buddsoddi lansio yn ddiweddarach eleni (2025) yn dilyn cymeradwyaeth derfynol gan lywodraethau Cymru a'r DU.
Mae'r canlynol yn debygol o fod yn feysydd ffocws:
Ymchwil ac arloesi
- Datblygu lleoliadau gwaith ffatri dros dro i helpu busnesau newydd i ehangu eu llinellau cynhyrchu.
- Mwy o ymchwil i ddatrysiadau arloesol i helpu i ddiwallu anghenion busnes y dyfodol.
Sgiliau
- Gwella cysylltiadau â phlant a phobl ifanc drwy feithrin llwybrau gyrfa arloesol i'r sector.
- Gwella dysgu i helpu gweithwyr i fodloni gofynion sy’n datblygu’n gyflym o ran sgiliau technegol.
Seilwaith
- Datblygu cyfleusterau dysgu arbenigol arloesol i helpu i uwchsgilio'r gweithlu gweithgynhyrchu uwch.
- Ail-lunio seilwaith trafnidiaeth i'w gwneud yn haws i bobl deithio i'r gwaith mewn safleoedd diwydiannol allweddol (gan gynnwys pobl sy'n byw mewn ardaloedd ag amddifadedd uchel).
- Cyflymu datblygiad safleoedd ac adeiladau o ansawdd uchel yn barod ar gyfer buddsoddiad busnes.
Cymorth i fusnesau
- Creu gwasanaeth pwrpasol i helpu busnesau i lywio systemau rheoleiddio a chynyddu cyfleoedd cadwyn gyflenwi.
- Darparu cyngor arbenigol i annog buddsoddiad mewn technolegau newydd.
- Ymgysylltu â busnesau newydd a busnesau sy’n ehangu i'w helpu i dyfu.
Cynllunio a datblygu
- Cynnig un pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau busnes.
- Helpu i gyflymu prosesau cynllunio.
- Creu uwchgynlluniau uchelgeisiol o ansawdd da ar gyfer safleoedd allweddol i gyflymu datblygiad ac adeiladu hyder buddsoddwyr.