Parcio anabl ar y stryd
Nid yw’r cynllun Bathodyn Glas yn drwydded i barcio yn unrhyw le. Mae nifer o leoliadau nad allwch barcio o dan unrhyw amgylchiadau; gwiriwch y trefniadau parcio ar gyfer eich cyrchfan ymlaen llaw.
Yn gyffredinol mae’r cynllun yn caniatáu’r buddion parcio canlynol cyhyd â bod eich Bathodyn Glas dilys yn cael ei arddangos, gall ddeiliaid bathodyn:
- barcio am ddim heb unrhyw gyfyngiad amser ar ofodau parcio ar y stryd gyda meteri parcio a ‘thalu ac arddangos’ oni bai fod gorchymyn traffig lleol yn nodi cyfyngiad amser ar gyfer deiliaid neu fathodynnau glas mewn grym
- gael eu heithrio rhag cyfyngiadau amser parcio a weithredir ar ddefnyddwyr eraill
- fel arfer barcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr yng Nghymru
Canol dinas Wrecsam – cyfyngiadau parcio i’r anabl ar y stryd
Gwahardd holl gerbydau
Ni ddylai cerbydau barcio ar y strydoedd neu rannau o’r strydoedd canlynol, yn ystod yr amseroedd canlynol:
- Dydd Llun i ddydd Gwener 11.30am tan 5pm
- Dydd Sadwrn 9.30am tan 5pm
- Dydd Sul 1pm tan 5pm
Stryt y Lampint
O bwynt 38 metr i’r gorllewin o’i gyffordd â Stryt Caer i’w gyffordd â Stryt y Frenhines.
Stryt y Frenhines
Ar ei hyd.
Stryt Henblas
Ar ei hyd.
Stryt Caer
O’i gyffordd â Stryt Siarl i’w gyffordd â Stryt Holt.
Stryt y Rhaglaw
O’i gyffordd â Hill Street i’w gyffordd â Stryt yr Hôb.
Stryt yr Hôb
Ar ei hyd.
Stryt Fawr
Ar ei hyd.