Gall yr heddlu gyflwyno Rhybuddion Cosb Benodedig gan i yrwyr os yw eu cerbyd yn rhwystro’r strydoedd. Delir â holl droseddau parcio, llwytho ac aros eraill gan ein (Cyngor Wrecsam) swyddogion gorfodi.

Dirwyon parcio - rhybudd talu cosb

Mae ein swyddogion gorfodi yn monitro strydoedd o fewn y fwrdeistref sirol a meysydd parcio canol tref sy’n eiddo i’r Cyngor. Bydd swyddogion gorfodi yn cyflwyno rhybudd talu cosb os ydych yn torri unrhyw reoliadau parcio sydd mewn grym ar yr adeg (ar gyfer troseddau ar, ac oddi ar y stryd).

Os ydych yn derbyn rhybudd talu cosb mae gennych fis i dalu’r ffi a nodir ar y rhybudd (neu wneud her ffurfiol yn lle). Os ydych yn talu o fewn 14 diwrnod bydd y ffi yn cael ei ostwng o 50%.

Talu rhybudd tâl cosb

Ar-lein

Gallwch dalu gyda cherdyn credyd/debyd trwy wefan Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (ni dderbynnir American Express).

Gwybodaeth am Bartneriaeth Prosesu Cosbau Cymru

Rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych fel rhan o Bartneriaeth Prosesu Cosbau Cymru.

Mae hyn yn golygu bod Cyngor Sir Ddinbych yn cwblhau rhai o’r gwaith gweinyddu yn Wrecsam ar ein rhan. Fodd bynnag, mae’r holl bolisïau wedi eu cytuno gennym ni ac mae staff Cyngor Wrecsam yn rhan drwy hol gamau’r broses.

Fel arall gallwch dalu eich rhybudd tâl cosb:

Dros y ffôn

Ffoniwch 0845 605 6556 i wneud taliad gyda cherdyn credyd/debyd.  Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ddydd Llun – ddydd Iau o 8.45am i 5.15pm a dydd Gwener o 8.45am – 4.45pm.

Fel arall, gallwch ffonio’r linell talu awtomatig 24 awr ar 0845 603 2677.

Drwy’r post

Gellir talu gyda siec neu archeb bost yn daladwy i: WPPP. Ni ddylid anfon arian parod drwy’r post.

Ysgrifennwch rif y rhybudd a’ch cyfeiriad ar gefn y siec / archeb bost a chwblhewch ac atodwch y bonyn talu.

Anfonwch eich taliad i:

WPPP
Blwch Post 273
Sir Ddinbych
LL18 9EJ

Cofiwch adael digon o amser ar gyfer postio i sicrhau eich bod yn cymryd mantais o’r gostyngiad o 50% o fewn 14 diwrnod.

Taliad hwyr

Os nad ydych yn talu’r rhybudd tâl cosb mewn amser, bydd y ffi yn cynyddu 50% neu hyd yn oed fwy.

Os na dderbynnir y taliad o fewn 28 diwrnod, bydd y deiliad cofrestredig neu’r person yr ydym yn credu sy’n berchen y cerbyd, yn derbyn ‘rhybudd i’r perchennog’ yn gofyn am daliad. Bydd y rhybudd hefyd yn disgrifio sut all y perchennog herio’r rhybudd tâl cosb yn ffurfiol (sef ‘sylwadau’).

Os ydych wedi colli eich rhybudd tâl cosb

Nid yw colli eich rhybudd tâl cosb yn rheswm am beidio â thalu. Os ydych wedi colli eich rhybudd tâl cosb, ffoniwch y WPPP (Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru) ar 0345 6056556 i gael cyngor.

Cyfrifoldebau parcio ar y stryd

Pan fyddwch yn parcio ar y stryd, mae’n bwysig eich bod yn parcio’n gywir, ac mewn modd diogel a chyfrifol.

Os fyddwch yn parcio yn y lle anghywir neu ddim yn talu’r swm cywir am yr amser, rydych yn agored i dderbyn dirwy parcio.

Eich cyfrifoldeb chi yw parcio’n gywir.

Ni chaniateir i chi barcio:

  • lle mae cyfyngiadau ar aros a llwytho mewn grym ar yr adeg
  • mewn bae sydd wedi’i gadw (er enghraifft ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas) heb arddangos trwydded ddilys yn gywir
  • mewn safle bws, neu mewn lôn fysiau yn ystod amseroedd gwaharddedig
  • ar linellau igam-ogam tu allan i ysgolion neu ger croesfannau i gerddwyr – nid yw casglu neu ollwng plant yn esgus, a gall eich cerbyd achosi perygl difrifol i ddiogelwch
  • ar balmentydd neu leiniau glas
  • mewn gofod talu ac arddangos heb dalu drwy gydol eich arhosiad
  • yn hirach nac unrhyw gyfyngiadau aros (ac ni ddylech ddychwelyd o fewn y cyfyngiad amser a nodir)

Os nad ydych yn sicr, gwiriwch yr arwyddion a marciau ffordd lle rydych yn ystyried parcio. Nid yw arwyddion yn ofynnol ar gyfer llinellau melyn dwbl, sy’n golygu na chaniateir aros ar unrhyw adeg.

Os oes marciau ffordd ar gyfer clirffordd safle bws, mae hyn hefyd yn golygu na chaniateir aros/parcio.