Rydym yn cynnig gwasanaeth ar gyfer cerbydau sydd angen parcio tu allan i eiddo er mwyn cwblhau gwaith neu ddanfon eitemau trwm.
Gwybodaeth am oddefebau llinellau melyn
Mae’r oddefeb yn caniatáu i bobl barcio ar linell felen sengl (neu mewn achosion arbennig, ar linellau melyn dwbl) os yw’r cerbyd angen cyflawni gwaith penodol, ac mae angen bod mor agos i’r eiddo â phosibl, ac nid oes gofod parcio amgen ar gael.
Yn gyffredinol ni ddylid eu defnyddio ar ardaloedd gyda gwaharddiad llwytho (a ddynodir gyda marciau ar gwrb y palmant).
Mae rhai ffyrdd yng nghanol tref Wrecsam sy’n destun cyfyngiad ‘mynediad yn unig’ sy’n golygu efallai y byddwch angen caniatâd gan yr heddlu i gael mynediad i ffordd benodol, yn ogystal â chaniatâd gennym ni.
Meini prawf cymhwyso
Gallwch fod yn gymwys am oddefeb os ydych yn disgyn i mewn i un o’r tri chategori canlynol:
- Mae eich cerbyd yn rhy fawr i ffitio o fewn bae parcio arferol (er enghraifft trelar/generadur wedi’i atodi/cerbyd masnachol) ac mae angen i chi barcio mor agos â phosibl i’r eiddo ar linell melyn.
- Rydych yn cyflawni un o’r mathau canlynol o waith neu’n delio ag un o’r sylweddau canlynol:
- Yn cario neu’n tynnu boeler tar
- Tynnu neu’n llwytho asbestos
- Yn cario cemegau peryglus ar gyfer eu defnyddio ar yr eiddo
- Gosod gwydr/ffenestr lle mae rac wedi’i osod ar ochr y cerbyd
- Chwythu tywod neu gyfwerth lle mae ceblau neu diwbiau yn rhedeg o’r cerbyd i’r wyneb neu du mewn i’r adeilad
- Gweithdy symudol gydag offer wedi’i osod i lawr y cerbyd (megis offer weldio, generaduron neu gwasgwyr)
- Delio ag offer toi neu ddraenio
- Angladdau
Sut i ymgeisio
Bydd yn rhaid i chi ddarparu:
- Manylion cyfeiriad llawn o le mae’r gwaith neu’r gwasanaeth yn cael ei gynnal
- Rhif cofrestru’r cerbyd a ddefnyddir
- Disgrifiad o natur y gwaith neu wasanaeth
- Dyddiad pan fyddwch angen y drwydded
- Eich manylion cyswllt (cyfeiriad e-bost neu bost)
Gallwch wneud cais am oddefeb parcio gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein:
Costau
- 1 diwrnod - £20
- hyd at 7 diwrnod - £35