Rhwng Rhos a Johnstown mae Parc Stryt Las lle ceir ardaloedd o laswelltir, coetir a phyllau. Mae llwybrau cerdded o amgylch y parc yn caniatáu i chi archwilio’r ardal, lle gallwch chwilio am y cerflun anferth o fadfall a gwylio adar y dŵr.
Mae brogaod, llyffantod, madfallod llyfn a madfallod palfog i gyd yn byw yn y parc, ond mae poblogaeth y Fadfall Ddŵr Gribog wedi rhoi statws arbennig i’r safle. Mae'r Fadfall Ddŵr Gribog yn brin ar draws ei chynefin naturiol yng Ngogledd Ewrop, fodd bynnag mae’r ardaloedd isel o amgylch Wrecsam yn gadarnle i’r amffibiad hwn.
Mae gan Barc Stryd Las statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Johnstown (ynghyd â Pharc Gwledig Bonc yr Hafod) oherwydd y Madfallod Dŵr Cribog.
Parcio ceir
Mae yna hefyd faes parcio bach yng Nghwm Glas / Stryt y Parc
Cŵn
Mae croeso i gŵn ym Mharc Stryt Las ond dylid eu cadw dan reolaeth bob amser. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.
Cysylltwch â ni
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)
Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)