Mae Dyfroedd Alun, parc gwledig mwyaf ardal Wrecsam, wedi’i leoli yn harddwch Dyffryn Alun ac mae’r safle wedi ennill Gwobr y Faner Werdd. Mae yna amrywiaeth o lwybrau cerdded, gan gynnwys llwybrau yn y goedwig, ar laswelltir ac ar lan yr afon, i’ch helpu i archwilio’r parc cyfan.

Mae'r Afon Alun yn rhannu’r parc yn ddwy ran.

Mae ochr Gwersyllt yn cynnwys maes parcio, canolfan ymwelwyr gyda chaffi, siop anrhegion a thoiledau gyda chyfleusterau newid babanod. Mae gan y ganolfan ymwelwyr ystafelloedd cynadledda a chyfarfod llawn offer, yn ogystal ag arddangosfa barhaol ar hanes a bywyd gwyllt y parc.

Mae ochr Llai hefyd yn cynnwys maes parcio, maes chwarae i blant a gwarchodfa natur leol.

Ni chaniateir hedfan dronau ym mharciau Wrecsam.

Mynediad

Mae mynediad ar gael am ddim i Ddyfroedd Alun ond mae Cyfeillion Dyfroedd Alun yn croesawu rhoddion.

Parcio ceir

Codir tâl ar ymwelwyr y parc am barcio bob dydd. Gatiau Gwersyllt ar agor 8:30am – 4:30pm 7 diwrnod yr wythnos.

Y tâl dyddiol yw £1, fodd bynnag gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim mewn unrhyw le parcio heb gyfyngiad amser.

Mae’r peiriannau talu ac arddangos wedi’u lleoli mewn mannau cyfleus yn y maes parcio. Gallwch dalu trwy arian parod neu gerdyn wrth y peiriant (arian parod yn unig yn Llai).

Gall ymwelwyr hefyd ddewis talu trwy ddefnyddio system dalu ddi-arian JustPark

Tocyn tymor

Gellir prynu tocyn tymor ar gyfer parcio ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, Melin y Nant a Pharc Gwledig Tŷ Mawr am gost o £50 y flwyddyn.

Mae tocynnau tymor ar gael i’w prynu ar-lein trwy ein e-siop.

Cŵn

Mae croeso i gŵn yn Nyfroedd Alun ond mae’n rhaid eu cadw dan reolaeth bob amser ac ar dennyn o fewn yr ardaloedd dynodedig sydd wedi'u harwyddo.

Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon. Mae bagiau baw cŵn ar werth yn y ganolfan ymwelwyr.

Caffi Cyfle

Mae Cyfeillion Dyfroedd Alun

Mae ‘Cyfeillion Dyfroedd Alun’ yn grŵp cymunedol sy’n gweithio ochr yn ochr â staff i wella a chynnal a chadw’r parc ar gyfer ei holl ddefnyddwyr. Mae’r grŵp yn cyfarfod unwaith y mis ac yn codi arian trwy grantiau a digwyddiadau codi arian i ariannu gwelliannau amrywiol yn Nyfroedd Alun.

Am ragor o wybodaeth, gallwch anfon e-bost at countryparks@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 822780.

Y Lleoliad yn y Parc

Mae gan Barc Gwledig Dyfroedd Alun ystafell gynadledda bwrpasol a llawn offer o’r enw ‘Y Lleoliad yn y Parc’ sydd ar gael i’w logi. Mae lluniaeth ar gael yn Nghaffi Cyfle ar y safle. Mae maes parcio a thoiledau ar gael ar y safle (codir tâl bychan am barcio).

I archebu, e-bostiwch venueinthepark@groundworknorthwales.org.uk neu ffoniwch 01978 269564. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ffurflen archebu, ar gael ar wefan Groundwork Gogledd Cymru. 

Cerdded

Mae llwybrau wedi’u harwyddo ar hyd coetir, glaswelltir ac ar lan yr afon er mwyn annog ymwelwyr i archwilio amrywiaeth ochrau Gwersyllt a Llai y Parc.

Mae rhai llwybrau tarmac llydan yn darparu mynediad ardderchog i gadeiriau olwyn a phramiau, er bod llethr serth mewn un man.

Mae pyst pren gydag olion traed lliw yn dangos y detholiad o lwybrau cerdded sy’n addas i alluoedd y rhan fwyaf o bobl.

Llwybrau olion traed lliw ar ochr Gwersyllt:

Y Llwybr Melyn (3/4 milltir)

Dilynwch y llwybr i lawr o’r ganolfan ymwelwyr heibio i’r coetir a’r ardaloedd blodau gwyllt agored lle gallech weld gloÿnnod byw a gwyfynod ymysg yr helyglys Llychlyn. Mae hon yn daith gerdded fer a phleserus at yr afon ac mae meinciau ar gael i orffwys ar hyd y ffordd. Yna gallwch ddychwelyd ar hyd y llwybr hwn i'r ganolfan ymwelwyr neu ddal i fynd ar hyd y llwybr oren.

Y Llwybr Gwyrdd (1 filltir)

Dilynwch y llwybr uchod ond trowch i'r dde wrth yr arwyddbost. Mae’r llwybr hwn yn mynd trwy laswelltir a choetir. Yn y diwedd fe welwch ddôl yr Ehedydd lle gallech fod yn ddigon ffodus i gael cipolwg ar yr aderyn prin hwn. Mae’r llwybr hwn yn mynd heibio i gerfluniau dur rhyfeddol ‘Metamorphosis’ y parc sy’n darlunio cylchedau bywyd.

Y Llwybr Oren (1½ milltir)

Dilynwch y llwybr uchod ond daliwch ymlaen ar hyd glan yr afon a mwynhewch yr olygfa o ymyl y dŵr. Mae coed aeddfed ar lan yr afon yn cynnwys: coed derw a chastan. Cadwch lygad ar agor am las y dorlan a’r trochwyr sydd i’w gweld yma ambell waith.

Dilynwch y llwybr ar lan yr afon a chroeswch y llwybr pren. Yn ystod yr haf mae gwas y neidr a mursennod yn gwibio trwy’r glaswellt cyfagos.

Dilynwch y rhan serth i fyny’r allt ar y dde. Yn yr hydref mae digonedd o aeron y ddraenen wen, y ddraenen ddu, yr ysgawen a choed criafol i’w gweld yma wrth i chi gerdded yn ôl i uno â’r llwybr gwyrdd sy’n mynd heibio i’r cerfluniau dur.

Llwybrau olion traed lliw ar ochr Llai:

Y Llwybr Glas (3/4 filltir)

Dilynwch y llwybr o’r maes parcio, ger ardal chwarae’r plant, a daliwch i fynd ar hyd y ffin allanol ger Ffordd Newydd Llai. Cadwch i’r chwith o amgylch ymyl y coetir helyg a bedw yna trowch i’r chwith eto gan fynd heibio i’r cerflun cwmwl ac yn ôl i’r maes parcio.

Y Llwybr Coch (2 filltir)

Dilynwch y llwybr uchod, ond yna dilynwch y llwybr hirach trwy fynd i'r dde trwy'r warchodfa natur yn y coetir. Trowch i’r chwith wrth yr arwyddbost yn y coed ac ewch trwy’r coed trwchus ac yn ôl i’r maes parcio, gan fynd heibio i’r wy marmor a’r cerfluniau cwmwl. Mae hwn yn llwybr arbennig o dda i ganfod bywyd gwyllt fel y gnocell werdd a'r gnocell frith leiaf wrth i chi gerdded trwy’r coetir.

Y Llwybr Porffor (2 filltir)

Mae’r llwybr hwn yn dechrau yn y maes parcio ac mae’n mynd yn syth ymlaen at y cerfluniau cwmwl ac yn syth trwy’r warchodfa natur. Daliwch i fynd gan anwybyddu’r troad i’r chwith ar gyfer y llwybr coch, nes i chi gyrraedd y cerflun mwyngloddio a chymerwch y troad sydyn i’r chwith. Dilynwch y llwybr cylch hwn trwy’r coetir, heibio i’r cwrs golff ac yn ôl i'r maes parcio.

Beicio / Pŵer Pedlo

Mae gan y parc amrywiaeth o lwybrau y gall beicwyr eu mwynhau. Gan ddechrau yn y ganolfan ymwelwyr, mae llwybr beicio 2 filltir a llwybr cerfluniau sy’n cynnig mannau beicio diogel oddi ar y ffordd i deuluoedd. 

Pŵer Pedlo

Mae Prosiect Pŵer Pedlo a reolir gan Groundwork Gogledd Cymru yn gweithredu o’r parc a’i nod yw gwneud beicio yn hygyrch i blant ac oedolion sydd ag amryw o anableddau. Mae Pŵer Pedlo yn defnyddio ystod o wahanol feiciau i fynd ar hyd llwybr cylch sy’n filltir o hyd ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.

I archebu lle, ffoniwch Pŵer Pedlo ar 01978 757524.

Llwybr Heini

Ar ochr Gwersyllt, mae gan y parc Lwybr Heini sydd wedi’i lunio’n arbennig i gynnwys detholiad o wahanol offer ymarfer corff syml.

Bwriad yr offer yw gwella’ch cryfder, stamina, cydbwysedd a chydsymudiad. Mae’r Llwybr Heini yn hwyl ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Mae’r offer cydbwysedd a chydsymud yn arbennig o addas i bobl ifanc, tra bo’r barau paralel a’r meinciau codi ar eich eistedd yn fwy addas i dynhau cyhyrau oedolion.

Bioamrywiaeth

Mae amrywiaeth y glaswelltir a’r coetir ynghyd â’r afon yn cynnig amrywiaeth o gynefinoedd.

Mae’r chwareli tywod a graean wedi crafu’r uwchbridd ffrwythlon ond mae’r isbridd gwael wedi galluogi cynefin gweirglodd gyfoethog i ddatblygu, sy’n llawn o ffacbys, glaswellt, llygad llo mawr a chribell felen. Yn yr haf, mae’r tegeirian dwysflodeuog yn olygfa gwerth ei gweld yn ogystal â thegeirianau gwenynog a chaldrist sy’n gallu bod yn eithaf prin. 

Mae rhywogaethau fel glas y dorlan, bwncathod, cudyllod, llwynogod, dyfrgwn, nadroedd brith, madfallod llyfn ac amrywiaeth o ystlumod wedi cael eu cofnodi yn Nyfroedd Alun.

Hanes y parc

Yn ystod y 16eg ganrif roedd y parc yn rhan o ystâd wledig fawr a Phlas Gwersyllt oedd y canolbwynt. Dymchwelwyd y plas yn 1910 oherwydd ymsuddiant o ganlyniad i fwyngloddio.

Yn 1953 prynodd cwmni MacAlpines y tir er mwyn agor chwareli ar ochrau Gwersyllt a Llai y parc. Prynodd Cyngor Bwrdeistref Maelor Wrecsam lawer o’r tir yn 1988 gan ddynodi’r ardal yn barc gwledig yn 1989.

Cyfeiriad a chyfarwyddiadau

Parc Gwledig Dyfroedd Alun
Ffordd yr Wyddgrug
Gwersyllt
Wrecsam
LL11 4AG (LL12 0PU ar gyfer ochr Llai)

Lleolir Dyfroedd Alun 3 milltir i’r gogledd o Wrecsam rhwng Gwersyllt, Bradle a Llai.

I gyrraedd y ganolfan ymwelwyr ewch ar hyd yr A541 Ffordd Wrecsam i’r Wyddgrug y tu allan i Gwersyllt a chwiliwch am yr arwyddion brown a gwyn.

I gyrraedd ochr Llai, ewch ar hyd y B5425 i Llai o Wrecsam a chyn dod i mewn i bentref Llai chwiliwch am yr arwyddion brown a gwyn. 

Cysylltwch â ni

Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)

Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)