Mae Parc Gwledig Dyffryn Moss wedi’i leoli rhwng Gwersyllt a Brynteg, dair milltir i’r gogledd o Wrecsam. Mae gan y dyffryn siâp ‘V’ goetir o goed derw a ffawydd, yn ogystal â dau lyn bach ac ardaloedd o laswelltir agored. Mae’r dyffryn yn gynefin llawn bywyd gwyllt ac mae’n arbennig o nodedig am ei adar.
Mae gan Ddyffryn Moss orffennol diwydiannol ac roedd yn arfer bod yn ardal lofaol fawr. Yn 1973 cafodd y tomenni gwastraff eu hadfer, ond ymysg y coetir a'r dolydd llonydd, mae tystiolaeth hyd heddiw o’r hen reilffyrdd a oedd yn arfer bod yno.
Mae llwybrau cerdded y parc yn aml yn dilyn hen dramffyrdd a rheilffyrdd a oedd yn arfer cael eu defnyddio i echdynnu glo a thywodfaen o’r dyffryn. Er bod y pyllau glo wedi hen fynd, mae’r chwareli tywodfaen bach yn dal yno ac yn cynnig cynefinoedd rhagorol i fywyd gwyllt yn guddiedig ymysg y coed.
Mae Clwb Pysgota Dyffryn Moss yn defnyddio’r llyn ger y prif faes parcio. Mae manylion aelodaeth a thocynnau dydd ar gael i'w prynu yn siop Deggy's Fishing Tackle, 2 Ffordd Rhiwabon, Wrecsam.
Gall marchogwyr / beicwyr ddefnyddio’r llwybr ar hyd yr hen reilffordd.
Parcio ceir
Mae dau faes parcio ger y llynnoedd, ond nid oes toiledau.
Cŵn
Mae croeso i gŵn ym Mharc Dyffryn Moss ond dylid eu cadw dan reolaeth bob amser. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.
Cysylltwch â ni
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)
Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)