Mae Parc Gwledig Bonc yr Hafod yn gorchuddio bron i 90 acer o goetir a glaswelltir. Mae’r parc ar safle Pwll Glo Hafod ac mae bryn mawr yno, sydd wedi’i enwi yn 'fynydd picnic' gan y trigolion lleol.
Ynghyd â Pharc Stryd Las, mae’r parc yn ffurfio rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Johnstown. Mae’r statws gwarchod cryf hwn wedi’i roi oherwydd y boblogaeth o Fadfallod Dŵr Cribog sy’n byw yn y parc a’r cyffiniau. Mae'r Fadfall Ddŵr Gribog yn brin yn ei chynefinoedd naturiol yng Ngogledd Ewrop, fodd bynnag mae’r ardaloedd o dir isel o amgylch Wrecsam yn gadarnle i’r amffibiad hwn.
Mae Hafod yn barc sy’n gyfoeth o fathau eraill o fywyd gwyllt hefyd, yn cynnwys gwas y neidr, neidr y glaswellt, y bwncath, y cudyll coch a’r ehedydd. Yn yr haf, mae'r parc yn llawn blodau gwyllt, gan gynnwys y tegeirian brith cyffredin a meillion traed adar, ac yn yr hydref, mae’r coetir yn llawn ffwng.
Parcio ceir
Mae maes parcio ger Ffordd Hafod, ar ymyl dwyreiniol y parc, sy’n cysylltu â’r rhwydwaith o lwybrau cerdded yn y parc.
Cŵn
Croesawir cŵn ym Mhonc yr Hafod ond rhaid iddynt gael eu cadw dan reolaeth bob amser. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.
Cysylltwch â ni
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)
Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)