Mae Parc Bellevue yn barc traddodiadol poblogaidd sydd o fewn cyrraedd ar droed o ganol y ddinas. Gall ymwelwyr weld tirwedd ffurfiol hyfryd mewn arddull Edwardaidd. Mae yno rodfeydd cysgodol o bisgwydd aeddfed yn ymestyn o lwyfan y band ynghyd ag ardaloedd lle mae coed newydd wedi’u plannu a hefyd wlâu llwyni addurniadol. 

Mae rhwydwaith o lwybrau ystumiol gydag arwynebau da yn darparu mynediad i bob cornel o’r parc, gyda lampau o’r cyfnod yn goleuo’r parc yn y nos. O fryn bach ger cwrt pêl-fasged y parc gallwch weld golygfeydd hyfryd dros Wrecsam, Eglwys y Plwyf a’r bryniau cyfagos. Yn ogystal mae gardd synhwyraidd ger y fynedfa i’r parc lle saif cerflun o’r Frenhines Fictoria.

Enillodd Parc Bellevue Wobr y Faner Werdd am y tro cyntaf yn 2005 ac mae wedi cadw'r wobr bob blwyddyn ers hynny.

Ni chaniateir hedfan dronau ym mharciau Wrecsam.

Parcio ceir

Nid oes llawer o le i barcio ond mae lleoedd parcio i’r anabl ar gael y tu allan i’r ganolfan gymuned (y tu mewn i’r parc, ochr Bellevue Road).

Cŵn

Mae croeso i gŵn ym Mharc Bellevue ond mae’n rhaid eu cadw dan reolaeth bob amser ac ar dennyn o fewn yr ardaloedd dynodedig sydd wedi'u harwyddo.

Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.

Oriau agor

Mae giatiau’r parc ar agor rhwng yr amseroedd canlynol yn ystod y flwyddyn:

O 1 Tachwedd i 31 Mawrth

Rhwng 7am a 5.30pm

O 1 Ebrill i 31 Hydref

Rhwng 7am a 9pm

 

Ar gau ar ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Cyfeillion Parc Bellevue

Mae Cyfeillion Parc Bellevue yn grŵp cymunedol gwirfoddol a sefydlwyd yn 2001. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob mis ynghyd â staff i drafod unrhyw ddatblygiadau neu gynlluniau i’r dyfodol ac mae’n gweithredu fel cyfrwng cyfathrebu i ddefnyddwyr y parc a’r gymuned leol.

Mae’r grŵp yn trefnu digwyddiadau amrywiol trwy gydol y flwyddyn ac yn codi arian i helpu i wella Parc Bellevue. Os hoffech ymuno â’r grŵp Cyfeillion ffoniwch 01978 262035 am fwy o wybodaeth.

Ardaloedd chwarae plant

Mae gan y parc ddarpariaethau chwarae i blant a phlant bach. Mae’r ardal wedi'i ffensio er mwyn rhwystro cŵn rhag dod i mewn ac mae 'wyneb mwy diogel' o dan yr offer chwarae.

Cae pêl-droed

Mae cae pêl-droed maint llawn ar gael i’w ddefnyddio gan bawb ac eithrio ar ddyddiau gemau’r clwb lleol.

Cyrtiau pêl-fasged a thennis

Mae cwrt pêl-fasged parhaol wedi’i farcio ar wyneb macadam bitwmen. 

Mae tri chwrt tennis macadam bitwmen parhaol yn y parc gyda darpariaeth ar gyfer dau gwrt arall yn ystod cyfnodau prysur.

Gallwch archebu cyrtiau trwy fynd i wefan y Gymdeithas Tennis Lawnt (dolen gyswllt allanol).

Lawnt Fowlio

Mae dwy lawnt fowlio yma, a ddefnyddir yn aml ar gyfer gemau rhyngsirol. Er bod y parc yn gartref i Glwb Bowlio Parciau, mae croeso i’r cyhoedd chwarae hefyd.

Mae gardd gerrig gyda phlanhigion Edwardaidd go iawn ynddi yn arwain at y lawntiau bowlio.

Bandstand

Mae’r bandstand yn nodwedd Edwardaidd wreiddiol ac mae’n sefyll mewn amffitheatr wedi’i thirlunio. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer cyngherddau a bandiau trwy gydol yr haf.

Mae’r rhaglen gerddoriaeth a ddarperir yn y parc wedi’i llunio at ddant pawb.

Hanes y parc

Yn 1907 prynwyd y safle a oedd yn cael ei adnabod fel Bellevue gan y Cyngor Bwrdeistref am £4346 1s 7c (‘s’ am swllt a ‘c’ am ceiniog). Yn 1908 enwodd y cyngor y parc yn ‘Y Parciau’ a chynhaliwyd cystadleuaeth yn 1909 i greu y dyluniad gorau.  Dechreuodd y gwaith datblygu yn 1910 a darparwyd giatiau’r fynedfa, rheiliau’r parc a’r Porthdy trwy danysgrifiadau cyhoeddus.

Daeth tenant cyntaf y Porthdy yn Uwch-arolygydd y parc ar 17 Chwefror 1914.  Adeiladwyd dwy lawnt fowlio, un fel lawnt “coron” a’r llall fel lawnt “wastad” ac fe’u hagorwyd i’r cyhoedd ar 30 Mai, 1914.  Mae'r gwaith o adeiladu’r bandstand hefyd yn dyddio’n ôl i 1914 ac fe’i hagorwyd ar brynhawn 19 Awst gan y maer. Roedd yn cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer cyngherddau bandiau pres ar ddydd Sul.

Yn 1916 cafodd canon yn dyddio o Ryfel y Crimea gyda'r arysgrifen: “Captured Sevastopol 1855”, ei symud i’r parc o Sgwâr Neuadd y Dref.

Gwnaeth trigolion Wrecsam gyfraniad anferth at ymdrech y rhyfel rhwng 1914 ac 1918 gan godi £6 miliwn mewn Benthyciadau Rhyfel. I gydnabod hyn cafodd tanc “Landship” Marc 1 ei roi i’r Pwyllgor Cynilon Rhyfel Lleol a chafodd ei arddangos yn falch yn y parc. 

Cafodd y tanc ei werthu fel sgrap yn 1928 i wneud lle i gerflun o Frenhines Fictoria a symudwyd i’w leoliad presennol o Sgwâr Neuadd y Dref yn 1928. Cafodd y cerflun ei roi gan y cerflunydd Henry Price yn 1905 i nodi coroniad Brenin Edward VII.

Roedd yr Ail Ryfel Byd yn gyfnod llwm yn hanes y parc. Rhwng 1940 a 1942 gwerthodd y cyngor haearn dianghenraid fel sgrap, gan gynnwys canon Rhyfel y Crimea a rheiliau ffiniau’r parc er mwyn helpu ymdrech y rhyfel. Chwaraeodd y Parciau ei ran yn yr ymgyrch “Dig for Victory” rhwng 1941 ac 1944 pan ddefnyddiwyd y tir i dyfu llysiau. Cafodd rhan ddwyreiniol y parc ei haredig a’i defnyddio i dyfu tatws a blannwyd gan blant o’r ysgolion lleol.

Oherwydd diffyg defnydd ac atgyweirio galwyd am ddymchwel y bandstand erbyn diwedd y 1960au. Fodd bynnag, achubwyd y nodwedd bwysig hon yn 1973 gan brosiect adfer. Cafodd y pafiliwn ei drosi yn y 1970au i ddarparu canolfan gymunedol.

Cafodd y parc ei adfywio a’i ailwampio yn helaeth yn 1999 gan ddychwelyd i'w ogoniant Edwardaidd. Llwyddwyd i wneud hynny gyd chymorth y Loteri Dreftadaeth, y Prosiect Parciau Trefol, Awdurdod Datblygu Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Cynhaliwyd agoriad swyddogol mawreddog i nodi’r achlysur ym mis Mehefin 2000.
 

Cyfeiriad

Parc Bellevue
Ffordd Bellevue
Wrecsam
LL13 7NH

Cysylltwch â ni

Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)

Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)