Mae Parc Acton tua hanner milltir i'r gogledd o Ganol Dinas Wrecsam ac yn ymestyn dros tua 24 hectar (64 acer).
Enillodd Parc Acton Wobr y Faner Werdd am y tro cyntaf yn 2016 ac mae wedi’i chadw bob blwyddyn ers hynny.
Roedd y parc yn arfer bod yn dir i Blas Acton ac mae sawl nodwedd o’r tirlun yn dal yno, ond y llyn a'r coed amrywiol a thrawiadol yw'r rhai mwyaf amlwg. Mae’r parc wedi’i ffurfio o ardaloedd mawr o barcdir, coetir a’r llyn, yn ogystal ag ystod o gyfleusterau chwarae a chwaraeon. Yn y parc hefyd mae yna nifer fach o ardaloedd sydd wedi’u plannu’n ffurfiol.
Parcio ceir
Mae tri maes parcio ar gyfer nifer gyfyngedig o gerbydau ger Rhodfa Herbert Jennings, ger Rhodfa Tapley a thu ôl i Dafarn Cunliffe ar Ffordd Jeffreys.
Cŵn
Mae croeso i gŵn ym Mharc Acton ond dylid eu cadw dan reolaeth bob amser. Cofiwch bod methu â chodi baw eich cŵn yn drosedd ddifrifol a gallech wynebu dirwyon.
Cysylltwch â ni
Ebost: countryparks@wrexham.gov.uk (dydd Llun i ddydd Gwener)
Ffôn: 01978 822780 (ar benwythnosau)