Gall eich busnes chi helpu i greu Wrecsam mwy gwyrdd a glân.
Ers i ni gyflwyno ein cynllun Noddi Cylchfan, mae wedi mynd o nerth i nerth, gan wella’r amgylchedd ar gyfer trigolion ac ymwelwyr Wrecsam. Mae eich arian nawdd yn mynd tuag at gynnal a chadw a datblygu’r cylchfannau.
Manteision noddi cylchfan
Mae lleoliad Wrecsam, gyda chysylltiadau agos gyda holl rwydweithiau priffyrdd yn rhoi mynediad hawdd i Ogledd Cymru a’r Gogledd Orllewin, gan ei wneud yn ardal ddelfrydol i hysbysebu eich busnes.
Gallwch hyrwyddo enw, logo a gwefan eich cwmni ac amlygu eich gwasanaeth neu gynnyrch ar un o'n cylchfannau.
Bydd eich arwydd yn weledol 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn i unrhyw gwsmeriaid posibl, gan wneud y nawdd y fforddiadwy a chost effeithiol.
Am ba hyd allwch noddi cylchfan?
Gall ein holl gylchfannau gael eu noddi am leiafrif o flwyddyn ac uchafswm o ddwy flynedd.
Faint fydd y gost?
Mae prisiau'n amrywio ac yn dibynnu ar y pethau canlynol: lleoliad y gylchfan, faint o draffig sy'n mynd heibio a'r cynllun plannu.
Mae’r cylchfannau’n dod o dan pris.
- Lefel 1 - £1000 y flwyddyn
- Lefel 2 - £2000 y flwyddyn
- Lefel 3 - £3000 y flwyddyn
Bydd gostyngiad o 25% ar gyfer Lefel 1 a Lefel 2 a bydd gostyngiad o 33% ar gyfer Lefel 3, ar gyfer nawdd dwy flynedd. Nid yw’r holl brisiau a ddangosir yn cynnwys TAW.
Mae amryw o leoliadau o amgylch Wrecsam i ddewis. Efallai bydd mwy o gylchfannau’n cael eu hychwanegu yn ddibynnol ar geisiadau cynllunio.
Cylchfannau sydd ar gael ar gyfer noddi
Lleoliad y gylchfan | Cost |
---|---|
Bodhyfryd |
£3000 y flwyddyn |
De Ffordd y Bont, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam |
£3000 y flwyddyn |
De Ffordd y Bont (Dwyreiniol), Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam |
£2000 y flwyddyn |
Ffordd Croesnewydd |
£2000 y flwyddyn |
Cylchfan NEWI (cyfyngiadau’n gymwys) |
Rhaid trafod y pris |
Cylchfan 1 Plas Coch |
£3000 y flwyddyn |
Cylchfan 2 Plas Coch |
£3000 y flwyddyn |
Rhostyllen A5152 Ffordd Osgoi |
£2000 y flwyddyn |
Cysylltu â ni
Os oes diddordeb gennych mewn dod yn noddwr, gallwch anfon neges e-bost i roundabouts@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Rydym ni (Cyngor Wrecsam) yn cadw’r hawl i beidio derbyn cytundeb noddi cylchfan gydag unrhyw noddwr am unrhyw reswm.