Beth ydym yn ei wneud?
Yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam, rydyn ni’n helpu i atal plant a phobl ifanc rhag bod yn rhan o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar eu cymunedau.
Rydym ni’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed, yn ogystal â’u teuluoedd, dioddefwyr a chymdogaethau, er mwyn atal troseddu ac aildroseddu. Ein nod yw helpu i leihau faint o droseddu sy’n digwydd yn y fwrdeistref sirol, ei effaith a’r ofn mae’n ei achosi.
Pryd fyddwn ni’n gweithio gyda phobl ifanc?
Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed:
Nad ydynt wedi cyflawni trosedd
- Pan fo pryder y byddant yn ymwneud â throseddu (rydym yn galw hyn yn ‘Raglen Cefnogi Atal’).
Sydd wedi bod yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Pan fo’r Heddlu wedi’u hatgyfeirio at y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i weld a oes angen i ni gynnig cefnogaeth.
Sydd wedi cyflawni trosedd
- Pan fo’r Heddlu wedi’u hatgyfeirio ar gyfer datrysiad y tu allan i’r Llys (sef y ‘Biwro’ – dysgwch fwy am y broses hon)
- Pan fyddant wedi bod gerbron Llys ac wedi’u dedfrydu i orchymyn cymunedol statudol
- Pan fyddant wedi bod gerbron Llys ac wedi’u dedfrydu i gyfnod dan glo
Mwy o wybodaeth am dîm y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Gwirfoddoli
Mae gennym ni fwy a mwy o wirfoddolwyr sy’n cefnogi tîm y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Maen nhw’n cael cyfle i weithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc a chefnogi penderfyniadau yn ein cyfarfodydd panel.
Rydyn ni’n annog rhai o bob oed a chefndir i gymryd rhan. Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at volunteerps@wrexham.gov.uk.
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, ffoniwch 01978 298739.