Mae bysgio yn gerddoriaeth, dawns, stryd, theatr, perfformiad a chelf sy'n cael ei gynnig yn fyw mewn gofod cyhoeddus at ddiben diddanu a rhyngweithio ag aelodau'r cyhoedd, a derbyn cyfraniadau gwirfoddol. Mae'n creu awyrgylch, nid niwsans.
Rydym yn annog bysgwyr i ddod i Ganol Dinas Wrecsam, ond gwnewch eich hun yn llwyr ymwybodol o'n canllawiau cyn i chi ddod.
Mae’n rhaid i chi ddilyn y canllawiau yma drwy’r amser neu fe fyddwch chi’n cael rhybudd neu fe allech hyd yn oed gael eich symud.
Canllawiau i berfformwyr a diddanwyr stryd
- Caniateir bysgio rhwng 10am a 3pm
- Ni ddylech ddefnyddio chwyddleisyddion, uchelseinyddion, dyfeisiau symudol, nac unrhyw offer tebyg yn ystod eich perfformiad.
- Mae’n rhaid bod gennych Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus o hyd at £2 filiwn, ac mae’n rhaid i chi allu arddangos tystysgrif o brawf ar unrhyw adeg.
- Dim ond am 40 munud y caniateir i chi berfformio ym mhob lleoliad.
- Ar ôl 40 munud, mae’n rhaid i chi symud o leiaf 100 metr i ffwrdd o’ch lleoliad blaenorol.
- Rhaid bod gennych chi repertoire llawn ac amrywiol, a dylech osgoi ailadrodd un darn o gerddoriaeth bob dydd.
- Ni ddylech achosi unrhyw amhariad i gerddwyr a defnyddwyr ffordd.
- Os byddwn yn dechrau derbyn cwynion gan y cyhoedd neu fusnesau lleol, gofynnir i chi naill ai ddod i gyfaddawd, cael eich rhybuddio, neu gofynnir i chi gael gwared â'ch hun.
Edrychwn ymlaen atoch yn ymweld â Wrecsam, a pherfformio yn ein dinas.