Mae gan lyfrgelloedd Wrecsam bob math o wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Gallwch chi ymuno â’r llyfrgell am ddim.
Ymunwch ar-lein neu ewch i’ch llyfrgell leol. Bydd angen i chi ddod â rhiant neu warcheidwad gyda chi a bydd angen iddo ef neu hi ddangos un peth i brofi ei enw a’i gyfeiriad. Gallwch chi ymuno heb eich rhiant neu warcheidwad hefyd ond bydd angen i chi ddangos un peth i brofi ei enw a’i gyfeiriad (cofiwch ofyn am ei ganiatâd i wneud hyn).
Rhai yn eu harddegau ac oedolion Ifanc
Mae lle penodol i bobl yn eu harddegau yn llyfrgell Wrecsam – mae stoc dda o lyfrau ffuglen, ffeithiol a llafar yn ogystal â nofelau comig a graffig.
Mae’r teitlau diweddaraf gennym yn cynnwys hunangofiannau poblogaidd gan bobl enwog, llyfrau sy’n gysylltiedig â rhaglenni teledu poblogaidd a dewis da o llyfrau llafar sy’n addas i rai yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Rydyn ni hefyd yn falch o gynnig gwasanaeth E-Gronau ar ran Llyfrgelloedd Cymru fel ei bod yn hawdd i chi gael gafael ar eich hoff gyhoeddiadau i’ch gliniadur, ffôn neu lechen.
Gallwch ymaelodi â’r llyfrgell am ddim ac wedyn gallwch fenthyca eitemau’n ddi-dâl yn ogystal â defnyddio ein cyfrifiaduron am ddim. Mae gennym gyfleusterau argraffu, sganio a llungopïo yn ogystal â Wi-Fi am ddim. Mae cyfleusterau astudio a chyfeirio ar gael hefyd, ynghyd â byrddau sy’n addas ar gyfer gwaith grŵp a gwaith unigol.
Dewch i weld beth sydd ar gael – mae’r staff yn gyfeillgar ac yn barod iawn i helpu ac os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i eitem benodol, rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth ceisiadau.