Gwasanaethau am ddim gan ddarparwyr allanol
Mae’n eich galluogi i weld mwy na 10 miliwn o erthyglau academaidd o fwy nag 8,000 o gyfnodolion ar amrywiaeth fawr o bynciau, yn cynnwys celfyddyd, pensaernïaeth, busnes, peirianneg, hanes, ieithoedd, gwleidyddiaeth, athroniaeth, mathemateg a’r gwyddorau.
Gallwch weld crynodebau o erthyglau gartref, ond rhaid i chi ddod i’r llyfrgell i lawrlwytho’r fersiwn lawn.
Adnodd hanes teuluol sy’n cynnwys cofnodion o’r DU a gwledydd tramor fel cyfrifiadau, cofnodion o enedigaethau, priodasau a marwolaethau, cofnodion plwyf a llawer mwy.
Adnodd hanes teuluol sy’n cynnwys cyfrifiadau, cofnodion o enedigaethau, priodasau a marwolaethau, cofnodion plwyf, cofnodion milwrol, teithio ac ymfudo, a phapurau newydd.
Dewis Cymru yw’r lle i fynd i gael gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu i gael gwybod sut y gallwch helpu rhywun arall.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig amrywiaeth fawr o adnoddau electronig drwy danysgrifio, yn amrywio o gyfnodolion ysgolheigaidd i wyddoniaduron a phapurau newydd.
Cannoedd o gyrsiau ar-lein am ddim yn cynnwys siopa ar y Rhyngrwyd, cyflogadwyedd, hanes, cynorthwyo’ch plant, mathemateg, ieithoedd, gwyddoniaeth a llawer mwy.
Mae Theory Test Pro yn cynnwys cronfa o’r holl gwestiynau mewn profion swyddogol, clipiau fideo ar rag-weld peryglon a fersiwn ar-lein o Reolau’r Ffordd Fawr.
Ar gael mewn llyfrgelloedd yn unig.
Geiriadur, thesawrws ac adnoddau am ramadeg, gan gynnwys canllawiau arbenigol.