English

Trwy ddewis “Derbyn” rydych yn cydnabod eich bod wedi darllen, deall a chytuno i ymddwyn yn unol â Pholisi Defnydd Derbyniol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Rydych hefyd yn cydnabod ac yn cytuno y gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fonitro, archwilio, cofnodi a datgelu fel y tybia sy’n briodol, eich holl weithgareddau rhyngrwyd a digidol sy’n digwydd wrth ddefnyddio rhyngrwyd, Wi-Fi ac offer TGCh Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Polisi Defnydd Derbyniol

Telerau ac amodau defnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus a Wi-Fi yn llyfrgelloedd cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Croeso i Rwydwaith Mynediad Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Rydym yn darparu mynediad cyhoeddus am ddim i’r rhyngrwyd yn unol â’n rôl fel ffynhonnell gwybodaeth, datblygiad deallusol a chyfoethogi’r gymuned. 

Mae’n rhaid i bobl ifanc dan 16 oed gael caniatâd rhiant neu warcheidwad i gael mynediad at y rhyngrwyd.

Rydym wedi cyflwyno’r telerau ac amodau canlynol i ddiogelu buddiannau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu:

1. Rhaid i gwsmeriaid:

  • Gymryd cyfrifoldeb personol dros eu data personol, arbed gwaith ac allgofnodi o unrhyw gyfrifon cyn i’w sesiwn ddod i ben

  • bob amser mewn modd rhesymol; a

  • sicrhau bod ganddynt awdurdod neu ganiatâd priodol i lawrlwytho, copïo neu argraffu unrhyw ddeunydd i gydymffurfio â chyfreithiau Hawlfraint.

2. Rhaid i gwsmeriaid BEIDIO â:

  • cheisio defnyddio cyfrifiadur y llyfrgell gan ddefnyddio rhif cerdyn llyfrgell a rhif PIN rhywun arall

  • achosi neu ganiatáu unrhyw ddifrod i offer sy’n perthyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

  • dileu rhaglenni neu newid cyfluniad y cyfrifiadur

  • ceisio cael mynediad di-awdurdod at gyfrifiaduron neu rwydweithiau eraill (hacio)

  • llwytho eu meddalwedd eu hunain neu gysylltu eu hoffer cyfrifiadurol eu hunain gydag offer cyfrifiadurol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (eithriadau fyddai caledwedd addasu ar gyfer defnyddwyr ag anghenion arbennig)

  • ceisio cael mynediad, creu, lawrlwytho neu drawsyrru deunyddiau anghyfreithlon, sarhaus, anweddus, hiliol neu sy’n debygol o achosi trosedd neu drallod di-angen

  • ceisio torri hawlfraint neu gytundebau trwydded

  • defnyddio’r cyfrifiaduron i dwyllo neu wneud unrhyw weithgaredd anghyfreithlon arall

  • tanysgrifio i unrhyw wasanaethau sy’n golygu costau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

  • dosbarthu hysbysebion na ofynnwyd amdanynt

3. Gallai peidio â chydymffurfio â’r amodau hyn arwain at:

  • dynnu’r cyfleusterau Rhwydwaith Mynediad Cyhoeddus yn ôl ar unwaith

  • gwrthod rhoi mynediad pellach naill ai am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol

  • camau disgyblu eraill gan yr awdurdod lleol, gan gynnwys erlyniad troseddol yn yr achosion gwaethaf

  • os yw defnyddiwr rhyngrwyd dan 16 oed yn methu â chydymffurfio â’r rheolau, byddwn yn hysbysu’r rhiant neu warcheidwad a roddodd ganiatâd.

4. Mae cwsmeriaid yn cael eu hatgoffa o’r canlynol:

  • rydym yn monitro’r defnydd a wneir o gyfrifiaduron yn electronig ac â llaw

  • mae unrhyw waith sy’n cael ei arbed ar y cyfrifiadur yn cael ei ddileu unwaith y bydd y sesiwn wedi dod i ben

  • rydym yn defnyddio meddalwedd addas i hidlo a gwirio firysau a allai gyfyngu ar fynediad i safleoedd penodol, ond dylai’r cwsmeriaid wybod nad yw’r rhain yn ddi-ffael

  • gall staff derfynu sesiwn defnyddwyr ar unrhyw adeg os ydynt yn credu bod y defnyddiwr wedi methu â chydymffurfio â’r telerau ac amodau a amlinellir uchod

Ymwadiad

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am:

  • unrhyw golled, difrod neu anaf o ganlyniad i ddefnyddio’r rhyngrwyd a chyfleusterau cyfrifiadurol
  • ansawdd, cywirdeb ac argaeledd gwybodaeth
  • unrhyw firysau ar offer personol ar ôl defnyddio cyfleusterau’r rhyngrwyd
  • unrhyw beth sy’n digwydd o ganlyniad i anfon gwybodaeth gyfrinachol trwy’r Rhyngrwyd; neu’r math o ddeunydd sydd ar gael ar y Rhyngrwyd

Mae rhieni neu warcheidwaid yn gyfrifol am unrhyw gyfyngiadau mynediad ar gyfer eu plentyn.

Nid yw CBSW yn gyfrifol am breifatrwydd na diogelwch eich gweithgareddau ac mae’n eich annog i fod yn ofalus wrth wneud trafodion ariannol a bancio ar-lein.