Ymunwch â’r llyfrgell am ddim a bydd pob un o’n gwasanaethau gwych ar gael i chi.

Ymaelodi

Gallwch chi ymaelodi am ddim! Gallwch ddod yn aelod o’r llyfrgell ar-lein neu mewn unrhyw lyfrgell yn sir Wrecsam, yr unig beth y bydd angen i chi ei ddangos yw prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad cyfredol.

Does dim rhaid i chi fod o oed penodol i ymuno – gorau po ieuengaf ydych chi! – ond os ydych chi o dan 16 oed, bydd angen i oedolyn lofnodi’r ffurflen i ddweud ei bod yn iawn i chi ymuno.

Os ydych chi dros 16 oed, rhaid i chi ddarparu un prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad. 

Mathau o brawf hunaniaeth sy'n dderbyniol:

  • Trwydded yrru
  • Cyfriflen banc*
  • Bil cyfleustodau*
  • Bil pensiwn/budd-dal
  • Presgripsiwn meddyg
  • Llythyrau swyddogol eraill*

* ni chaiff fod yn fwy na 3 mis oed

Fel arfer byddwch chi’n gallu benthyca llyfrau’n syth bin.

Mae cyfrifiaduron â chysylltiad â’r rhyngrwyd a meddalwedd Microsoft Office yn ein holl lyfrgelloedd. Mae pob o’n llyfrgelloedd yn darparu Wi-Fi am ddim hefyd.

 

Beth rydyn ni’n ei ofyn gennych chi wrth ymuno â’r llyfrgell

  • Dod â’ch cerdyn llyfrgell pan fyddwch yn benthyca llyfrau o’r llyfrgell neu pan fyddwch am ddefnyddio’r cyfleusterau TGCh.
  • Dod â’r eitemau rydych wedi’u benthyca yn ôl mewn pryd.
  • Bod yn gyfrifol am yr eitemau sydd wedi’u benthyca ar eich cerdyn. 
  • Na fydd eich cerdyn llyfrgell yn cael ei ddefnyddio gan neb arall.

Beth allaf i ei fenthyca ac am ba hyd?

Gallwch fenthyca...

  • Hyd at 20 o lyfrau am dair wythnos

Mae cyfnodau benthyca estynedig ar gael os ydych chi’n fyfyriwr neu’n mynd ar wyliau.

Byddwch yn gallu defnyddio holl adnoddau’r catalog llyfrgell ar-lein, gan gynnwys lawrlwytho llyfrau sain ac eLyfrau fel benthyciadau. Er mwyn canfod mwy gallwch fynd i’ch llyfrgell leol a siarad ag aelod o staff.

Fel aelod o lyfrgelloedd Wrecsam, gallwch hefyd ddefnyddio nifer o apiau/ gwasanaethau ar-lein a ddarperir gan sefydliadau eraill yn rhad ac am ddim – ceir rhestr o’r rhain ar ein tudalen ‘Llyfrgelloedd - gwasanaethau ar-lein'. 

Adnewyddu

Gallwch adnewyddu y mwyafrif o eitemau (hyd at uchafswm o ddwywaith) ar-lein, dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb. Dim ond am dri diwrnod y mae modd adnewyddu eitemau sydd wedi eu rhoi ar gadw gan rywun arall.

Cadw eitemau

Os nad yw’r eitem rydych ei eisiau ar gael gallwch ei chadw am ddim:

Byddwch angen eich cerdyn llyfrgell a’ch rhif PIN i gadw llyfrau. Pan fydd yr eitem yn barod i’w chasglu byddwn yn gadael i chi wybod dros y ffôn neu e-bost. 

Llyfrau print bras/llafar

Mae gennym ddewis o lyfrau print bras a llyfrau llafar yn Gymraeg a Saesneg i chi eu benthyca ym mhob un o’n llyfrgelloedd. Ychwanegir teitlau newydd i’r stoc yn gyson.

Gofynnwch i’r staff eich helpu os ydych yn chwilio am deitl penodol ac yn methu dod o hyd iddo ar y silffoedd. Os yw ar gael mewn print bras neu fel recordiad llafar, gwnawn ein gorau i’w gael i chi.

Casgliad arbennig

Casgliadau Iechyd a Lles

Llyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn yng Nghymru

Mae Darllen yn Well yn eich cefnogi i ddeall a rheoli eich iechyd a lles gan ddefnyddio darllen defnyddiol.

Mae llyfrau Darllen yn Well i gyd yn cael eu hargymell gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl sydd â phrofiad o fyw o'r cyflyrau a'r pynciau dan sylw a'u perthnasau a'u gofalwyr.

Gall gweithiwr iechyd proffesiynol argymell teitl i chi, neu gallwch ymweld â'ch llyfrgell leol a chymryd llyfr allan eich hun.

Mae’r casgliadau isod ar gael hefyd:

  • Casgliad ar brofedigaeth
  • Llyfrau Pwyleg
  • Casgliad ar rianta
  • Llyfrau Wcráin

Llyfrgell gyfeirio

Mae staff gwybodus a chymwynasgar yn y llyfrgell gyfeirio yn Wrecsam yn gallu cynnig cyngor ar bynciau o bob math, yn ogystal â chysylltiad â’r Rhyngrwyd am ddim, Wi-Fi a man astudio.

Cysylltwch â ni os oes gennych chi ymholiad neu dewch i mewn i bori drwy’r casgliad a defnyddio ein cyfleusterau (dod o hyd i’ch llyfrgell leol).

Argraffu

Gallwch argraffu ffeiliau PDF a Microsoft Office: 

Mae arnoch angen cerdyn llyfrgell a rhif pin i wneud hyn. Gallwch gofrestru ar-lein am gerdyn aelodaeth os nad oes gennych un yn barod.

Priso

  • 20c fesul tudalen A4 mewn du a gwyn
  • 40c fesul tudalen A4 mewn lliw

Ni allwn argraffu unrhyw faint arall. Gallwch dalu â cherdyn neu arian parod wrth y cownter yn llyfrgell Wrecsam ac arian parod yn unig ym mhob llyfrgell arall - neu talwch ar-lein (‘Pob Siop’ a dewiswch eich llyfrgell).

Rydyn ni hefyd yn cynnig...

  • Gwasanaeth ymholiadau
  • Hunanwasanaeth Llungopïo – meintiau A4 ac A3 lliw
  • Mapiau
  • Papurau newydd
  • Gwyddoniaduron
  • Geiriaduron
  • Gwybodaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Adroddiadau Which?
  • Gwybodaeth am hanes lleol
  • Mannau astudio
  • Mae pob o’n llyfrgelloedd yn darparu Wi-Fi am ddim hefyd

TGCh

Dysgu gyda llyfrgelloedd Wrecsam

Os ydych chi’n awyddus i ddysgu o ran pleser, neu os ydych yn dilyn cwrs mwy ffurfiol, neu’n gwneud eich gwaith cartref hyd yn oed, mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam ar gael i’ch helpu.

Mae 10 llyfrgell gyhoeddus yn Wrecsam yn ogystal â llyfrgell deithiol a gwasanaeth Cyswllt Cartref sy’n agor ar nifer o amseroedd gwahanol.

Mae gan staff y llyfrgelloedd brofiad o ddelio ag ymholiadau o bob math a gallant eich cyfeirio at yr adnoddau priodol i gwrdd â’ch anghenion dysgu. Mae ein llyfrgelloedd yn gallu darparu pecynnau dysgu ieithoedd, DVDs ffeithiol a gwerslyfrau.

Gwasanaeth cyswllt cartref

Mae ein gwasanaeth Cyswllt Cartref ar gael i bobl sy’n byw yn Sir Wrecsam, sy’n gaeth i’w cartrefi ac sydd heb neb i gasglu llyfrau ar eu rhan. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn, anfonwch neges e-bost i library@wrexham.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01978 292090.