Bob mis byddwn yn rhoi sylw i awdur sydd wedi tynnu ein llygad neu wedi ein hysbrydoli. Gallwch ddod o hyd i’w llyfrau drwy chwilio am eu teitlau yn ein catalog ar-lein neu galwch heibio i’ch llyfrgell leol.
Tim Sullivan
Mae Tim Sullivan yn nofelydd, yn gyfarwyddwr ffilm ac yn ysgrifennwr sgrin sefydledig, ac mae ei gredydau yn cynnwys, A Handful of Dust, Where Angels Fear to Tread, Jack and Sarah a Letters to Juliet. Cyfarwyddodd hefyd sawl pennod o Coronation Street a Sherlock Holmes gyda Jeremy Brett. Mae bellach wedi cychwyn ar gyfres o nofelau trosedd sy'n cynnwys yr ecsentrig a lletchwith gymdeithasol, ond yn wych o barhaus DS George Cross . Wedi’i leoli ym Mryste yn ne orllewin Lloegr, mae dulliau Cross yn aml yn cynhyrfu ei gydweithwyr, ond ei gyfradd euogfarnu, diolch i’w ddyfalbarhad di-hid a’i sylw i fanylder, yw’r gorau yn yr heddlu. Cafodd ei ddau lyfr cyntaf The Dentist a’r The Cyclist eu lawr lwytho dros 200,000 o weithiau yn ystod pum mis cyntaf eu cyhoeddi. Ers hynny mae wedi ysgrifennu pedair nofel arall ac ef yw cadeirydd y DU Gild Awduron America (Gorllewin).
Awdur Cymraeg y Mis - Mared Lewis
Mae Mared Lewis yn awdur ar ei liwt ei hun sydd hefyd wedi cyhoeddi nifer o nofelau i oedolion gan gynnwys nofelau i ddysgwyr fel rhan o’r gyfres Amdani . Yn ogystal ag ysgrifennu, mae Mared hefyd yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac yn diwtoriaid sesiynau ysgrifennu creadigol i oedolion hefyd. Mae hi hefyd yn ysgrifennu llyfrau Cymraeg i blant. Mae Mared Lewis yn byw ar Ynys Môn efo Dafydd ei gŵr, ac mae hi'n fam i ddau fab. Mae hi'n mwynhau cerdded, drama a'r theatr, pilates a chyfarfod ffrindiau am swper.