Gyda siâp cain a gosgeiddig, mae’r Helygen Wylofus yn adnabyddadwy oherwydd ei changhennau nodedig sy’n hongian.
Disgrifiad
- Uchder cyfartaledd a lledaeniad yn gallu bod hyd at 15 x 12 medr.
- Deiliant: Collddail
- Dail: hir, cul, dail eilydd. Mae ganddynt ochr gwyrdd llachar ar un ochr, a gwyrddlas oddi tanodd.
- Brodorol yn y DU: Nac ydi
A wyddoch chi?
- Mae dros 400 o rywogaethau o helygen ar draws y byd.
- Mae rhisgyl a sudd Helygen yn cynnwys sylwedd a enwir yn asid salisylig a oedd yn cael ei ddefnyddio i liniaru poen a gostwng gwres mor bell â’r 5ed ganrif CC yn hen wlad Groeg.
- Mae’r Helygen wedi ysbrydoli llawer o artistiaid, beirdd ac ysgrifenwyr dros y canrifoedd. Ewch i weld ‘Weeping Willow’ Monet, ‘Willow Song’ Shakespeare yn ei ddrama ‘Othello’ ac mewn llenyddiaeth fodern, darllenwch am ‘Whopming Willow’ yng nghyfres llyfrau Harry Potter.