Gwesteiwyr a phobl sydd wedi cael cefnogaeth drwy'r cynllun llety â chefnogaeth yn disgrifio eu profiadau.
Gadawr gofal 1 – merch ifanc 18 oed
‘Dw i wedi tyfu gymaint mwy fel oedolyn ifanc. Dydw i erioed wedi bod mor hapus a phositif yn fy mywyd ers bod yma. Dw i’n meddwl bod llety â chefnogaeth yn hynod fuddiol i bobl ifanc, yn enwedig gyda’r gefnogaeth gywir o’ch cwmpas.’
Gadawr gofal 2 – merch ifanc 18 oed
‘Fy mhrofiad gyda llety â chefnogaeth oedd y cyfle mwyaf cofiadwy i mi erioed ei gael. Mae byw mewn cartref lle rydych chi’n teimlo eich bod wedi cael ail gyfle yn wych, ond i deimlo’r gefnogaeth gan eraill, mae hynny’n galonogol a dweud y lleiaf. Yn ystod y flwyddyn roeddwn wedi bod yn rhan o’r cynllun lletya, cefais fy atgoffa bob amser bod hyn ddechrau newydd. Fe wnes i wahanu fy hun oddi wrth broblemau’r gorffennol a dechrau gwneud atgofion newydd. Fe wnaeth y profiad hwn fy helpu i ennill digon o annibyniaeth, ac eto roedd y gefnogaeth yr oeddwn i ei hangen yno i mi o hyd. Mae'n rhoi boddhad mawr i’r unigolyn ifanc a'r gwesteiwr. Roedd yn wych i mi oherwydd roeddwn i’n teimlo fy hun yn dod yn fwy hyderus, ymrwymedig a hapus. Beth wnes i ei ddysgu, ar y cyfan, annibyniaeth mae’n debyg, ond mewn ffordd wahanol – fe wnes i ddysgu sut i siarad a chyflwyno fy hun mewn modd aeddfed. Dw i’n gallu cymryd galwadau ffôn yn hyderus a theithio ar gludiant cyhoeddus heb unrhyw bryderon. Dw i bellach yn gallu coginio!
Fel gwesteiwr, gallwch CHI helpu rhywun arall i helpu eu hunain. Gallwch eu gwylio nhw’n datblygu i’r unigolyn rydych chi’n gwybod y gallan nhw fod. Mae'r cyfan yn dechrau gyda rhoi ystafell sbâr, a dyma gynnig y bydda i’n ddiolchgar amdano bob amser.’
Gwesteiwr llety â chefnogaeth 1 – dyn sengl sy’n gweithio llawn amser
‘Dros y blynyddoedd, rwyf wedi cefnogi pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal maeth a / neu lety â chefnogaeth, ac wedi gweld o lygad y ffynnon sut mae gofal a chefnogaeth gyson yn eu harwain at ddyfodol gwell. Fel gwesteiwr llety â chefnogaeth, rwy'n gallu cynnig cartref strwythuredig, cyson a sefydlog. Ar y cyfan, mae fy mhrofiad o fod yn westeiwr wedi bod yn un cadarnhaol. Mae gan yr unigolyn ifanc rwy'n ei gefnogi lefel dda o sgiliau byw'n annibynnol ac mae'r rhain wedi gwella gyda chefnogaeth barhaus. Oes mae heriau, ond mae’r pethau cadarnhaol yn gorbwyso hynny.
Mae bod yn westeiwr yn cynnwys rhywfaint o gyfrifoldeb ychwanegol. Fodd bynnag, rwy'n dal i allu parhau â fy mywyd o ddydd i ddydd. Rwy'n gallu cydbwyso gwaith, bywyd cymdeithasol a datblygiadau pellach ynghyd â bod yn westeiwr llety â chefnogaeth. Mae gan Gyngor Wrecsam Gydlynydd Llety â Chefnogaeth sy'n cynnig cefnogaeth i westeion ac yn helpu i gael mynediad at wasanaethau i'r unigolyn ifanc a'r darparwr. Mae gwesteion yn cael eu paru'n dda â phobl ifanc gan y tîm llety â chefnogaeth, ac maen nhw'n gweithredu fel pont rhwng y gwesteiwr, yr unigolyn ifanc a'r tîm gadael gofal. Ni fu angen i mi gysylltu â'r tîm dyletswydd brys i gael cefnogaeth ar frys erioed, ond rwy'n ymwybodol bod rhywun ar gael 24/7 i ddarparu cefnogaeth pe bai ei angen arnaf.
Mae pobl ifanc sy'n cyrchu llety â chefnogaeth yn aml wedi profi anghysondeb yn eu bywydau. Fel darparwr llety â chefnogaeth, gallwch chi ddarparu'r cysondeb a'r diogelwch hwnnw.
Mae dod yn westeiwr ar gyfer Cyngor Wrecsam yn golygu y gallaf roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a sicrhau dyfodol i rai o'n pobl ifanc. Fel gwesteiwr, dyma fy nghyngor - os oes gennych gartref sefydlog, ystafell sbâr ac yn teimlo y gallwch gefnogi pobl i ddod yn hyderus ac yn annibynnol, cysylltwch â'r Gwasanaeth Llety â Chefnogaeth - gallant darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Os hoffech chi siarad â gwesteiwr yn uniongyrchol hefyd, gellir trefnu hynny'.