Ein cyfrifoldebau ni
Rydym yn gyfrifol am wneud gwaith trwsio a chynnal a chadw i’r strwythur, y tu allan i’r strwythur a rhannau cyffredin eich bloc o fflatiau. Mae hyn yn cynnwys...
- lifftiau
- waliau allanol
- addurno allanol
- addurno mannau cyffredin mewnol
- trawstiau
- gwaith coed a distiau
- toeau
- sylfeini
- cyrn simneiau
- carthffosydd a draeniau
- pibellau dŵr glaw a charthion
- pibellau i fyny i’r fflat
- nwy, dŵr a thrydan
- drysau a ffenestri cyhoeddus
- tiroedd cyffredin a mannau parcio
- gardd gyffredin, llwybrau, waliau, ffensys, iardiau a mannau palmantog
Nid ydym yn gyfrifol am gynnal a thrwsio drysau a ffenestri fflatiau wedi’u prydlesu.
Fodd bynnag fe wnawn beintio ac addurno’r tu allan i’r adeilad mor aml ag sy'n rhesymol angenrheidiol (yn cynnwys y tu allan i ddrysau allanol a ffenestri.)
Eich cyfrifoldebau chi
Fel lesddeiliad mae eich cyfrifoldebau yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) y canlynol...
- lloriau
- gosodiadau, megis unedau cegin a'r sinciau
- waliau mewnol nad sy'n waliau cynnal
- plastr neu ddeunydd arwyneb arall ar waliau a nenfydau mewnol
- drysau mewnol a fframiau drysau
- toiledau, bath a'r gawod
- rheiddiaduron, sisternau a thanciau
- boeleri a phibellau a ddefnyddir dim ond y tu fewn i'r fflat
- gosodiadau nwy, dŵr a thrydan sy'n gyfyngedig i'r darnau gosod,y gosodiadau a'r addurno mewnol
Sut i roi gwybod am waith trwsio sy’n angenrheidiol
Os mai ein cyfrifoldeb ni yw mater cynnal a chadw neu drwsio, dylech gysylltu â ni. Bydd faint o frys sydd am unrhyw waith trwsio yn cael ei asesu a byddwch yn cael yr un flaenoriaeth a’n tenantiaid.
Y tu allan i oriau swyddfa
Dim ond argyfyngau fydd yn cael sylw y tu allan i oriau gwaith arferol. Mae hyn yn cynnwys gwaith y mae’n rhaid ei wneud i osgoi perygl neu ddifrod i'r adeilad, neu i sicrhau iechyd a diogelwch preswylwyr. Y tu allan i oriau gwaith arferol (yn cynnwys penwythnosau) dylech ffonio 01978 298993.
Crynodeb o Gyfrifoldebau Atgyweirio
Math o atgyweirio | Cyfrifoldeb |
---|---|
Drws ffrynt y fflat | |
Drws | Prydleswr |
Handlenni drws | Prydleswr |
Cloeon drws | Prydleswr |
Allweddi a gollwyd | Prydleswr |
Diogelwch ychwanegol | Prydleswr |
Drysau mewnol y fflat | Prydleswr |
Ffenestri'r fflat | |
Gosodiadau a chliciedau ar ffenstri | Prydleswr |
Paenau ffenestri | Prydleswr |
Diogelwch ychwanegol | Prydleswr |
Gwresogi | |
Boeler comunol | Cyngor |
Rheiddiaduron a phibellau sydd wedi eu cysylltu i system wresogi gomunol | Cyngor |
System wresogi unigol | Prydleswr |
Gwresogyddion ystafell | Prydleswr |
Ysgubo simneiau | Prydleswr |
Lleoedd tân | Prydleswr |
Trydanol | |
Namau tu fewn i'r fflat | Prydleswr |
Goleuo cymunol | Cyngor |
Gwresogydd troch | Prydleswr |
Ffiwsiau | Prydleswr |
Ffaniau echdynnu | Prydleswr |
Gwaith Plymio | |
Pibell wedi byrstio tu fewn i'r fflat | Prydleswr |
Tap a wasieri tap | Prydleswr |
Tapiau cau, pêl-falf, bath basn, sinc | Prydleswr |
Tanciau dŵr poeth neu oer y tu fewn i'r fflat | Prydleswr |
Prif danc storio (mewn llofft comunol) | Cyngor |
Balconïau | |
Dadflocio gylïau (draeniau) | Cyngor |
Pla o golomennod | Prydleswr |
Gwaith adeileddol | Cyngor |
Draeniau | |
Rhwystr i bibellau draenio a rennir | Cyngor |
Rhwystr o fewn y fflat | Prydleswr |
Nwy (Ffoniwch Nwy'r Grid Cenedlaethol) | |
Gollyngiadau nwy o fewn y fflat | Prydleswr |
Poptai | Prydleswr |
Tannau nwy | Prydleswr |
Nwy (gwasanaethu) | Prydleswr |
Toeau | |
Toeau | Cyngor |
Gwteri | Cyngor |
Waliau a nenfydau | |
Waliau mewnol | Prydleswr |
Adeiledd y wal gydrannol | Cyngor |
Plastr mewnol | Prydleswr |
Nenfydau | Prydleswr |
Waliau ardaloedd comunol | Cyngor |
Lloriau y tu fewn i'r fflat | |
Estyll | Prydleswr |
Distiau | Cyngor |
Byrddau sgertin | Prydleswr |
Teils llawr | Prydleswr |
Lloriau lefelu concrid | Prydleswr |
Addurno | |
Addurno mewnol | Prydleswr |
Addurno ardaloedd comunol | Cyngor |
Cyfleusterau Comunol | |
Ardaloedd parcio ceir | Cyngor |
Gardd gomunol a man glaswelltog | Cyngor |
Golchdy a chyfleusterau comunol | Cyngor |
Erial teledu comunol | Cyngor |
Systemau rheoli mynediad a lifftiau | Cyngor |
Llwybr a gatiau comunol | Cyngor |
Plâu | |
Plâu pryfaid/cnofilod i eiddo unigol | Prydleswr |
Plâu pryfaid/cnofilod i floc | Difa Plâu |
Gwaith trwsio a gwelliannau mawr
Mewn rhai achosion (ar ôl cynnal arolygon, ymgynghori â’r preswylwyr neu pan fo gwaith trwsio arferol yn cael ei wneud) rydym yn gweld bod angen gwneud gwaith trwsio sylweddol neu fod angen prosiectau gwella. Gallai’r gwaith hwn gynnwys...
- toeau newydd
- gosod systemau agor drysau mynediad
- lifftiau newydd
- balconïau newydd
O dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, mae arnom ddyletswydd i ymgynghori â chi cyn gwneud unrhyw waith trwsio neu welliannau mawr.
Ymgynghori
Fel eich Landlord, rydym yn credu mewn ymgynghori’n llawn ac agored cyn unrhyw waith mawr a gwelliannau. Byddwn yn mynychu cyfarfodydd grwpiau tenantiaid a phreswylwyr a lesddeiliaid ble bo angen, er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o faterion a allent effeithio arnoch chi.
Mae’r ddeddfwriaeth yn gofyn i ni ymgynghori os yw cyfraniad lesddeiliad yn mynd i fod yn fwy na £250, neu unrhyw ffigwr a osodir mewn statud yn y dyfodol. Byddwch y cael llythyr yn dweud wrthych am y gwaith arfaethedig a byddwch yn cael gwahoddiad i wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn 30 diwrnod, os ydych yn dewis gwneud hynny. Dan unrhyw amgylchiadau bydd gennych gyfle i enwebu contractwr.
Os ydych yn enwebu contractwr a’u bod yn diwallu ein meini prawf ni, fe allwn ofyn iddynt ddarparu dyfynbris ochr yn ochr â'r contractwyr ar ein rhestr o gontractwyr cymeradwy.
Pan dderbynnir y dogfennau tendr byddwch yn cael llythyr manwl yn nodi’r gwaith yr ydym yn bwriadu ei wneud, pwy fydd y contractwyr a beth fydd y gost. Unwaith eto bydd gennych 30 diwrnod i wneud sylwadau ysgrifenedig.
Byddwn yn ystyried eich sylwadau ac ni fyddwn yn dechrau gwneud unrhyw waith cyn dyddiad darfod y cyfnod ymgynghori, a fydd wedi ei nodi ar yr holl ohebiaeth berthnasol.
Unwaith y mae’r gwaith wedi’i gwblhau a’i archwilio a'r contractwr wedi ei dalu, byddwn yn anfon anfoneb am eich cyfraniad chi atoch.