1 Ebrill 2019
Mae Gwasanaethau Atgyfeirio Disgyblion Wrecsam yn uned atgyfeirio disgyblion portffolio sy'n darparu addysg lawn amser i ddisgyblion nad ydynt yn gallu mynd i'r ysgol oherwydd ymddygiad, salwch meddygol neu na fyddent fel arall yn gallu cael addysg addas. Mae pob disgybl naill ai ar gofrestr sengl neu ddeuol (prif) gyda’u hysgol brif ffrwd. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu ‘addysg yn y cartref’ i ddisgyblion sy’n methu â mynychu ysgol am resymau iechyd am gyfnod byr. Mae’r holl ddisgyblion hyn yn aros ar gofrestr eu hysgol brif ffrwd. Mae Gwasanaethau Atgyfeirio Disgyblion Wrecsam yn destun rheoliad trwy fframwaith archwilio Estyn.
Gwybodaeth a gesglir
- Enw
- Cyfeiriad
- Manylion Cyswllt
- Dyddiad Geni
- Ethnigrwydd
- Anabledd
- Anghenion Addysgol Arbennig
- Iaith
- Rhyw
- Gwybodaeth Addysg
- Cyfranogiad asiantaeth
- Gwybodaeth am berthnasoedd
- Cyfansoddiad Teuluol
- Gwybodaeth Iechyd
- Gwybodaeth Atgyfeirio / Asesu
- Gwybodaeth achos / Nodiadau achos perthnasol
- Gwybodaeth Galluedd Meddyliol
- Asiantaethau Eraill sy’n Gysylltiedig
- Gwybodaeth Ariannol
- Asesiadau Risg
Asiantaethau y gallem rannu’r wybodaeth â nhw
- Awdurdodau Lleol eraill
- Adrannau eraill yn Awdurdod Lleol Wrecsam
- Asiantaethau Iechyd
- Meddygon Teulu
- Sefydliadau Trydydd Sector
- Cyrff Elusennol / Ymddiriedolaethau / Mudiadau
- Ysgolion
- Partneriaid Darparu wedi’u Comisiynu
- Gwasanaethau Cludiant
- Gwasanaethau Eirioli
- Cyrff Rheoleiddio
- Llywodraeth Cymru
- Swyddfa Archwilio Cymru
- Heddlu a Throseddu Ieuenctid
- Cynrychiolwyr Cyfreithiol
- Mewnfudo
- Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
- Asiantaethau Barnwrol (e.e. Llysoedd)
Pwrpas prosesu
- Cynllunio a Darparu Gwasanaeth
- Gwella Gwasanaethau
- Ymchwil
- Hyfforddiant staff
- Marchnata
- Archwilio
- Atal / Canfod Trosedd / Twyll