1 Awst 2020

Mae’r hysbysiad preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i Adnoddau Dynol a’r Gwasanaeth Datblygiad Sefydliadol.  Mae’r gwasanaeth angen math penodol o wybodaeth i ddatblygu cais i weithio i ni ac, yn y gwaith , i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel cyflogwr ac i alluogi cael gwybodaeth monitro gweithlu.

Mae’r elfennau o’r gwasanaeth sy’n defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu i ni yn cynnwys:

  • Canolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol (gan gynnwys cyflogres)
  • Adnoddau Dynol a chyngor a chefnogaeth proffesiynol Datblygiad Sefydliadol (gan gynnwys gwybodaeth rheoli gweithlu)
  • Datblygu'r Gweithlu

Gwybodaeth a gasglwyd

Recriwtio

Os ydych yn gwneud cais am swydd yn y Cyngor rydym yn gofyn am:

•    Enw
•    Cyfeiriad
•    Dyddiad Geni
•    Manylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost personol
•    Rhif yswiriant gwladol
•    Gwybodaeth Cydraddoldeb
•    Gwybodaeth am berthnasau
•    Gwybodaeth addysg a hyfforddiant
•    Cymwysterau
•    Hanes gyrfa
•    Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol / Rheoleiddio
•    Euogfarnau Troseddol Darperir yr wybodaeth hon gennych chi trwy’r broses o wneud cais.  
Cesglir yr holl wybodaeth ar y ffurflen gais.

Cyflogaeth

Fel gweithiwr, ac fel rhan o’r broses wirio cyn cyflogi, byddwn yn cadw'r wybodaeth a gesglir yn y cam recriwtio a  byddwn hefyd yn casglu:

  • Gwybodaeth gofrestru, gwasanaeth datgelu a gwahardd a chorff rheoleiddio
  • Gwybodaeth ariannol 
  • Gwybodaeth bersonol arall:
  1. Perthynas Agosaf
  2. Cydraddoldeb
  3. Manylion Banc
  4. Gwybodaeth Iechyd  
  5. Atgyfeiriad Iechyd Galwedigaethol/Gwybodaeth Asesu 
  6. Gwybodaeth achos cyflogaeth perthnasol 
  7. Elfennau eraill o wybodaeth gyflogaeth sydd ei hangen er mwyn cyflawni ein swyddogaeth fel y cyflogwr

Asiantaethau y gallem rannu’r wybodaeth gyda nhw

Ymgeisydd

•    Yn fewnol, i bwrpasau recriwtio
•    Gydag ymgynghorydd recriwtio allanol i gefnogi proses recriwtio a dethol (fel arfer ar gyfer swydd uwch)

Gweithiwr

•    Darparwyr Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol
•    Cyrff cofrestredig a'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
•    Darparwr Cynllun Gwobrwyo
•    Darparwr E-ddysgu
•    Darparwyr cynllun pensiwn
•    CThEM a BACS
•    Partïon trydydd parti eraill ar gyfer didyniadau cyflog awdurdodedig

Pwrpas prosesu

Ymgeisydd

•    Proses Recriwtio a Dethol

Gweithiwr

  • Cyflawni ein dyletswyddau cyfreithiol fel cyflogwr
  • Pwrpasau cyflogi e.e. CThEM a BACS i bwrpasau cyflogaeth a threth, a didyniadau awdurdodedig eraill i drydydd parti dynodedig e.e. Undebau Llafur, budd-dal tai, cynlluniau iechyd.
  • Darparwr Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol 
  1. Fel rhan o’r broses atgyfeirio ac fel rhan o’n gweithdrefnau cyflogi i alluogi cyngor a chymorth.
  • Cyrff cofrestredig
  1. Fel sy’n ofynnol gan reoliadau ac ar gyfer gwiriadau cyn cyflogi yn ystod recriwtio.
  • Darparwr Cynllun Gwobrwyo a darparwr e-ddysgu
  1. I’ch galluogi i gael mynediad i’r system.
  • Tîm Hyfforddi a Datblygu mewnol
  1. Trefnu a chofnodi unrhyw ddarpariaeth o’r gwasanaethau hyn.