Fel landlord mae’n debygol y bydd angen i chi gomisiynu Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer eich eiddo ar ryw adeg. Os oes angen un ar gyfer eich eiddo, mae cyfrifoldeb arnoch chi i ddarparu’r Dystysgrif Perfformiad Ynni i denantiaid.
Mae’n rhaid i chi hefyd wella effeithlonrwydd ynni eich eiddo os nad yw’n cyrraedd y safon gofynnol.
Ynglŷn â Thystysgrifau Perfformiad Ynni
Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni yn ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth am eiddo a pha mor effeithlon y mae’n defnyddio ynni.
Mae’n darparu gwybodaeth allweddol, yn cynnwys:
- Effeithlonrwydd ynni yr eiddo ar raddfa o A i G (A yw’r mwyaf effeithlon a G yw’r lleiaf effeithlon)
- Effaith amgylcheddol yr eiddo
Mae’r holl Dystysgrifau Perfformiad Ynni ar dai presennol yn cael eu llunio gan ddefnyddio’r un broses. Mae hyn yn golygu y gellir cymharu effeithlonrwydd ynni eiddo gwahanol yn deg.
Tystysgrifau Perfformiad Ynni a rhentu’n breifat
Fel landlord preifat rhaid i chi:
- gomisiynu (trefnu) Tystysgrif Perfformiad Ynni cyn bod adeilad yn cael ei farchnata i’w rentu
- darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni i unrhyw ddarpar denantiaid y tro cyntaf y caiff yr eiddo ei osod a dylai unrhyw denantiaid y dyfodol gael copi
- darparu’r Dystysgrif Perfformiad Ynni yn rhad ac am ddim.
Mae’r Dystysgrif Perfformiad Ynni’n ddilys am 10 mlynedd (oni bai bod tystysgrif ddilys newydd yn cael ei chomisiynu o fewn y cyfnod hwn). Gallwch ddewis comisiynu Tystysgrif Perfformiad Ynni newydd os oes newidiadau sylweddol wedi cael eu gwneud i eiddo a fyddai’n effeithio ar y dystysgrif bresennol.
Mae’r mathau canlynol o lety rhent yn eithriad ac nid oes arnynt angen Tystysgrif Perfformiad Ynni:
- fflatiau un ystafell neu ystafelloedd lle mae cegin, toiled a / neu ystafell ymolchi a rennir (er enghraifft eiddo lle mae gan bob ystafell ei chytundeb tenantiaeth ei hun)
- ystafell mewn neuadd breswyl neu hostel
Rheoliadau safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol (MEES)
Mae’r rheoliadau (MEES) mewn lle i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn y sector rhentu preifat.
Beth mae’r rheoliadau yn ei olygu?
Mae’r rheoliadau yn golygu bod rhaid i eiddo rhentu preifat gyrraedd gradd E fel isafswm ar y Dystysgrif Perfformiad Ynni.
Fel landlord, fe allech chi fod yn torri’r gyfraith os ydych chi’n rhentu eiddo sydd â gradd ‘F’ neu ‘G’ ar y Dystysgrif (mae hyn yn berthnasol i denantiaethau newydd a phresennol).
Mae'n rhaid i chi wneud gwelliannau os ydych chi’n rhentu eiddo sydd â gradd ‘F’ neu ‘G’ ar y Dystysgrif, oni bai eich bod wedi cofrestru eich eiddo fel eithriad.
Eiddo eithriedig
Ni fydd yn rhaid i chi wneud gwelliannau os ydych wedi cofrestru eich eiddo fel eithriad. Serch hynny, mae yna resymau cyfyngedig y gallwch chi gofrestru eithriad ar eu cyfer.
Mae eithriadau yn para am 5 mlynedd ac wedi’r cyfnod hwn bydd yn rhaid i chi ail-gofrestru eithriad os yn berthnasol. Mae yna hefyd eithriad 6 mis dros dro os daethoch chi’n landlord yn ddiweddar o dan amgylchiadau penodol.
Gorfodaeth a chosbau
Rydym ni (Cyngor Wrecsam, fel yr awdurdod lleol) yn gorfodi’r rheoliadau. Mae gennym ni ystod o bwerau i wirio a sicrhau bod landlordiaid yn cydymffurfio.
Os ydym ni’n credu bod landlord wedi torri’r rheoliadau, gallwn gyflwyno hysbysiad cydymffurfio. Yn yr hysbysiad, gofynnir am wybodaeth i’n helpu i benderfynu a oes rheol wedi’i thorri.
Os allwn ni gadarnhau bod eiddo yn torri’r rheoliadau (neu wedi eu torri), gallwn naill ai wneud un neu’r ddau beth canlynol:
- cyflwyno cosb ariannol hyd at 18 mis ar ôl i’r rheol gael ei thorri
- cyhoeddi manylion y rheol sydd wedi’i thorri am o leiaf 12 mis