Marchnata / hysbysebu eiddo
Hysbysebu’r eiddo eich hun
Fe allech chi hysbysebu’r eiddo ar-lein, neu ofyn a gewch chi roi arwydd ar hysbysfwrdd yn ffenestr siop leol neu’r llyfrgell. Efallai y bydd arnoch eisiau hysbysebu yn y papur lleol hefyd.
Os ydych chi’n targedu marchnad benodol mae arnoch angen sicrhau eich bod yn hysbysebu’r eiddo yn y ffordd fwyaf addas i ddod o hyd i ddarpar denantiaid (er enghraifft, gallech farchnata’r llety i fyfyrwyr drwy roi hysbyseb yn rhestri eiddo’r brifysgol).
Nodwch swm y rhent a maint yr eiddo yn eich hysbyseb er mwyn annog y darpar denantiaid mwyaf addas i ddod i’w weld.
Defnyddio asiant gosod tai i hysbysebu’r eiddo
Mae rhai landlordiaid yn defnyddio asiantau rheoli sy’n medru hysbysebu’r eiddo a dod o hyd i ddarpar denantiaid, yn ogystal â rheoli’r tenantiaethau wedi hynny. Os ydych chi’n ‘hunan-reoli’, fodd bynnag, gallech ddewis defnyddio asiant dim ond i farchnata’r eiddo.
Pennu’r rhent
Wrth bennu swm y rhent dylech ystyried y rhent a godir am eiddo tebyg yn yr ardal (gallai ymchwilio i rent y farchnad fod o fudd ichi).
Os ydych chi’n codi llawer mwy o rent na landlordiaid eraill mae’n annhebygol y cewch chi lawer o bobl yn dangos diddordeb. Os yw’ch rhent yn uwch gan ei fod yn cynnwys costau nad ydynt bob amser yn rhan o’r rhent (fel costau gwresogi, Treth y Cyngor neu fand eang) dylech wneud hynny’n amlwg yn yr hysbyseb.
Byddwch yn hyblyg gyda’r rhent a meddyliwch am ostwng y pris, yn enwedig os ydych chi’n ffyddiog y bydd y darpar denantiaid yn gofalu am yr eiddo. Gallai gostwng y rhent ryw ychydig ddod â mwy o incwm ichi na gadael yr eiddo’n wag am ychydig fisoedd cyn ei osod.
Paratoi i bobl ddod i weld yr eiddo
Sicrhewch fod golwg cystal â phosib ar yr eiddo cyn i rywun ddod i’w weld. Gallai hynny gynnwys pethau fel ail-baentio rhai darnau os oes angen, neu dorri’r gwair, yn ogystal â thwtio a glanhau.
Byddwch yn barod i roi gwybodaeth am yr ardal leol – efallai y dymunwch amlygu manteision penodol (bod yn agos at ysgolion/siopau, er enghraifft, neu fod y lle’n dawel).
Byddwch yn onest wrth ateb unrhyw gwestiynau gan ddarpar denantiaid pan fyddant yn dod i weld yr eiddo. Os yw’r tenant yn gwybod popeth cyn llofnodi cytundeb tenantiaeth maent yn llai tebygol o gael eu siomi’n ddiweddarach.
Cael geirdaon gan denantiaid
Mae gwirio hanes ariannol darpar denantiaid a chael geirdaon cyn iddynt symud i mewn yn medru helpu i osgoi trafferthion fel mynd ar ei hôl hi gyda’r rhent. Mae gofyn am eirdaon gan landlordiaid a chyn-landlordiaid hefyd yn medru rhoi syniad ichi a fyddant yn denantiaid da.
Os penderfynwch fod arnoch eisiau gwirio credyd unrhyw ddarpar denant bydd arnoch angen eu caniatâd yn gyntaf.