Mae’r rhan fwyaf o landlordiaid yn cymryd blaendal gan eu tenantiaid i ddiogelu rhag torri unrhyw amodau o’r cytundeb tenantiaeth (gan gynnwys methu â thalu’r rhent, neu ddifrodi’r eiddo).
Os ydych chi’n gofyn i denant â thenantiaeth fyrddaliadol sicr i dalu blaendal bydd arnoch angen diogelu’r blaendal hwnnw drwy gynllun y llywodraeth. Mae hyn yn berthnasol i bob tenantiaeth fyrddaliad sicr a ddechreuodd, neu a gafodd ei hadnewyddu, ar 6 Ebrill 2007 neu wedi hynny.
Drwy ddiogelu’r blaendal rydych yn sicrhau y bydd eich tenant yn cael eu harian yn ôl – oni bai fod arnoch angen didynnu unrhyw arian gan iddynt fethu â bodloni telerau’r cytundeb tenantiaeth.
Sut ddylwn i ddiogelu blaendaliadau tenantiaeth?
Mae’n rhaid i chi (neu asiant sy’n gweithredu ar eich rhan) roi’r blaendal mewn cynllun a gymeradwywyd o fewn 30 diwrnod o’i dderbyn.
Mae’n rhaid ichi ddefnyddio un o’r tri chynllun a gymeradwyir gan y llywodraeth. Os defnyddiwch chi unrhyw gynllun arall ni fydd y blaendal wedi’i ddiogelu gan y gyfraith.
Y tri chynllun cymeradwy yw:
Os na ddiogelir y blaendal drwy un o’r cynlluniau cymeradwy gallai’r tenant ddewis mynd â chi i’r llys sirol. Gallech gael eich gorfodi i ad-dalu’r blaendal i’r tenant neu’i dalu i gynllun a gymeradwywyd o fewn 14 diwrnod.
Oes arnaf angen gwneud rhywbeth ar ôl diogelu’r blaendal?
Oes, pan fyddwch chi (neu asiant yn gweithredu ar eich rhan) yn diogelu blaendal bydd arnoch angen rhoi manylion penodol i’r tenant a elwir yn ‘wybodaeth ragnodol’.
Dylid darparu’r wybodaeth hon i’r tenant o fewn 30 diwrnod o dalu’r blaendal a dylai gynnwys:
- eich manylion cyswllt (neu fanylion yr asiant)
- manylion cyswllt y cynllun blaendal tenantiaeth a ddefnyddir
- eitemau neu wasanaethau sydd wedi’u cynnwys o fewn y blaendal
- yr amgylchiadau y mae’r awdurdod yn gallu cadw rhywfaint o’r blaendal neu’r blaendal cyfan
- sut i wneud cais i gael y blaendal yn ôl ar ddiwedd y denantiaeth
- beth all y tenant ei wneud os oes anghydfod ynglŷn â’r blaendal.
Duech hefyd roi copi wedi’i lofnodi i’r tenant o dystysgrif diogelu’r blaendal.
Dylid rhoi cyfle i’r tenant wirio’r ddogfen sy’n cynnwys y wybodaeth ragnodedig a’i llofnodi i gadarnhau bod ei chynnwys yn gywir.
Eithriadau
Mae’r rheoliadau hyn yn golygu y dylai’r mwyafrif o flaendaliadau ar gyfer tenantiaethau byrddaliad sicr newydd fod yn ddiogel, fodd bynnag, mae rhai eithriadau.
Nid yw’n ofynnol ichi gofrestru blaendal gydag un o’r cynlluniau diogelu:
- os ydych chi’n landlord preswyl
- os yw rhent y denantiaeth yn fwy na £100,000 y flwyddyn
- os ydych yn gosod yr eiddo drwy gwmni
- os yw’r eiddo’n llety i fyfyrwyr sy’n cael ei osod yn uniongyrchol gan brifysgol neu goleg