Yn 2016, pasiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Mae’r ddeddf wedi bod ar waith ers 1 Rhagfyr, 2022. Cyflwynodd lawer o newidiadau i gyfreithiau tenantiaeth ac mae’n berthnasol i’r sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat.
Pwrpas y ddeddf
Nod y ddeddf yw:
- gwneud hi’n haws ac yn fwy syml i landlordiaid a deiliaid contract meddiannaeth i rentu cartref yng Nghymru
- symleiddio cytundebau a gwella cyflwr cartrefi rhent yng Nghymru
- cynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd i ddeiliaid contract meddiannaeth a landlordiaid
Ar bwy mae’r ddeddf yn effeithio
- Pob landlord - preifat a chymdeithasol
- Holl ddeiliaid contract meddiannaeth - preifat a chymdeithasol
Newidiadau penodol
- Disodlwyd cytundebau tenantiaeth gan gontractau meddiannaeth.
- Sicrwydd cynyddol i ddeiliaid contract meddiannaeth rhent preifat - mae’n rhaid i landlordiaid roi rhybudd o 6 mis cyn belled â bod y contract heb ei dorri.
- Rhaid i bob eiddo fod yn ddiogel ac o safon y gellir byw ynddynt - mae hyn yn cynnwys cael larymau mwg sy’n gweithio, larymau carbon monocsid a phrofion diogelwch trydanol.
- Mae deiliaid contract meddiannaeth wedi cynyddu hawliau olyniaeth i’w basio ar eu cartref
- Gellir ychwanegu neu ddileu deiliad contract heb fod angen terfynu’r contract.
- Gall landlordiaid adfeddiannu eiddo a adawyd heb orchymyn llys, ar yr amod bod ymchwiliadau wedi'u cynnal.
Beth mae’n ei olygu i chi fel landlord
Mae’r ddeddf yn:
- symleiddio a gwella eich gallu i gael meddiant o’ch eiddo
- gwella sut mae landlordiaid yn rheoli cartrefi rhent yng Nghymru
Sut mae’n effeithio’n uniongyrchol arnoch chi
- Bydd unrhyw gytundeb tenantiaeth bresennol yn cael ei newid yn awtomatig i gontract newydd a rhaid i chi roi copi o’r contract meddiannaeth newydd i’ch deiliaid erbyn 1 Mehefin, 2023.
- Bydd yn rhaid i unrhyw ddeiliaid contract meddiannaeth newydd yn eich eiddo arwyddo eich contract yn y ffordd arferol ac mae’n rhaid cyflwyno copi o fewn 14 diwrnod.
Beth sydd angen i chi ei wneud?
Rydym yn eich cynghori i fynd i wefan Llywodraeth Cymru i ddysgu am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.