Gelwir rhai mathau o eiddo rhent yn Dai Amlfeddiannaeth. Fel tenant preifat, mae’n bwysig gwybod os yw eich eiddo yn Dŷ Amlfeddiannaeth oherwydd, fel tenant mewn Tŷ Amlfeddiannaeth, mae gennych rai hawliau a chyfrifoldebau ychwanegol.
Beth yw Tŷ Amlfeddiannaeth?
O dan Ddeddf Tai 2004, ystyr Tŷ Amlfeddiannaeth yw:
- tŷ neu fflat cyfan sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sydd yn ffurfio dwy aelwyd neu fwy a sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled
- tŷ sydd wedi cael ei newid i nifer o fflatiau un ystafell neu lety arall nad yw’n hunangynhwysol ac sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac yn rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled.
- tŷ wedi’i drawsnewid sydd yn cynnwys un fflat neu fwy nad ydynt yn llwyr hunangynhwysol ac sydd wedi’u meddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy.
- adeilad sydd wedi’i drawsnewid yn llwyr i fflatiau hunangynhwysol lle mae llai na dwy ran o dair gyda'r perchennog yn byw yno a lle nad oedd y trawsnewid yn cydymffurfio gyda Rheoliadau Adeiladu 1991.
Beth yw ystyr ‘aelwyd’ yn nhermau Tai Amlfeddiannaeth?
Gall ‘aelwyd’ fod yn berson sengl, neu aelodau o’r un teulu’n byw gyda’i gilydd. Mae aelodau o’r un teulu’n cynnwys pobl sy’n briod neu’n byw gyda’i gilydd fel pâr priod (yn cynnwys unigolion mewn perthynas un rhyw) yn ogystal â pherthnasau agos a phlant maeth yn byw gyda rhieni maeth.